lnf.cymru stimulus sheet · Welsh · Year 11

Taflen ysgogi: Cais Osian am swydd haf

Caffi’r Cei, the town of Porth Wennol, its school, Osian Jones, Gareth Hughes and the e-mail addresses are invented. Osian’s draft contains deliberate mistakes for pupils to find: it is practice material, not a model to copy.

1. Yr hysbyseb

Caffi’r Cei, Porth Wennol
Swydd haf: cynorthwyydd caffi

Rydyn ni’n chwilio am berson ifanc, 16 oed neu’n hŷn, i weithio yn y caffi rhwng 1 Gorffennaf a 5 Medi.

Anfonwch e-bost at Gareth Hughes, y rheolwr, erbyn 15 Mai. Dywedwch wrthon ni pam rydych chi eisiau’r swydd, pa brofiad sydd gennych chi, a phryd rydych chi ar gael.

2. Drafft cyntaf Osian

Oddi wrth: Osian Jones <osian.jones@porthwennol.example>
At: Gareth Hughes <gareth@caffircei.example>
Dyddiad: dydd Iau 13 Mai 2027
Pwnc: Cais am swydd haf

Annwyl Mr Hughes,

Rydw i’n ysgrifenu i gwneud cais am y swydd haf yn Caffi’r Cei. Dydd Llun diwethaf, rydw i’n gweld yr hysbyseb ar eich gwefan, a hoffwn i weithio gyda ti o fis Gorffennaf tan fis Medi.

Fy enw i yw Osian Jones ac rydw i’n un ar bymtheg oed. Rydw i’n byw yn Porth Wennol gyda fy teulu, ac rydw i ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Porth Wennol.

Y llynedd, rydw i’n gwneud profiad gwaith mewn siop fara am wythnos. Bydda i’n gweini cwsmeriaid ac yn glanhau’r byrddau, a dysgais i sut i ddefnyddio’r til. Hefyd, rydw i’n gwirfoddoli yn siop elusen y dref bob dydd Sadwrn ers dwy blynedd.

Hoffwn i weithio yn dy gaffi di, rydw i’n mwynhau siarad â pobl. Rydw i’n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl, ac rydw i’n gallu coginio’n da. Rydw i’n helpu fy mrawd bach gyda’i gwaith cartref bob nos, felly rydw i’n amynedgar iawn.

Rydw i ar gael i weithio yn y bore ac yn y prynhawn, dydw i ddim yn gallu gweithio ar ddydd Sul achos rydw i’n chwarae pêl-droed. Rydw i wedi prynu tri crys-T gwyn a trowsus du yn barod.

Diolch yn fawr am ddarllen fy nghais. Rydw i’n edrych ymlaen at glywed gennych chi, a byddwn i’n gallu dod am gyfweliad unrhyw bryd.

Hwyl fawr,
Osian Jones

3. Nodyn gan Mrs Rees, athrawes Gymraeg Osian

Gwaith da, Osian! Mae’r cynnwys yn ateb popeth yn yr hysbyseb. Ond cyn anfon, darllena dy waith eto a gwiria bum peth: treigladau, amser y ferf, ti neu chi, sillafu a geiriau cysylltu. Hefyd, mae llawer o frawddegau’n dechrau gyda “Rydw i”: newidia rai ohonyn nhw.

English translation, for the cover teacher

1. The advert. Caffi’r Cei (the Quay Café), Porth Wennol. Summer job: café assistant. We are looking for a young person, aged 16 or over, to work in the café between 1 July and 5 September. 3 days a week, 09:30 to 15:30. Serving customers, clearing tables and helping in the kitchen. You must speak Welsh with our customers. Uniform: a white T-shirt and black trousers. E-mail Gareth Hughes, the manager, by 15 May. Tell us why you want the job, what experience you have, and when you are available.

2. What Osian meant to say (a translation of the corrected e-mail; the Welsh draft has 20 mistakes, all listed in the worked example). Thursday 13 May 2027. Subject: Application for a summer job.

Dear Mr Hughes, I am writing to apply for the summer job at Caffi’r Cei. Last Monday I saw the advert on your website, and I would like to work with you from July until September.

My name is Osian Jones and I am sixteen years old. I live in Porth Wennol with my family, and I am in Year 11 at Ysgol Gyfun Porth Wennol.

Last year I did work experience in a bakery for a week. I served customers and cleaned the tables, and I learnt how to use the till. Also, I have been volunteering in the town’s charity shop every Saturday for two years.

I would like to work in your café because I enjoy talking to people. I speak Welsh and English fluently, and I can cook well. I help my little brother with his homework every night, so I am very patient.

I am available to work in the morning and in the afternoon, but I cannot work on Sundays because I play football. I have already bought three white T-shirts and black trousers.

Thank you very much for reading my application. I look forward to hearing from you, and I could come for an interview at any time. Yours sincerely, Osian Jones

3. Note from Mrs Rees, Osian’s Welsh teacher: Good work, Osian! The content answers everything in the advert. But before you send it, read your work again and check five things: mutations, verb tense, ti or chi, spelling and connectives. Also, lots of sentences begin with “Rydw i” (I am): change some of them.