LNF Cymru Llythrennedd a rhifedd i Gymru

Rhan o Fframweithiau'r sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

Trawsieithu
Trawsieithu: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Trawsieithu

Rwy’n dechrau defnyddio gwybodaeth sydd wedi’i chyflwyno mewn un iaith a’i mynegi yn fy ngeiriau fy hun mewn iaith arall.

Rwy’n gallu derbyn gwybodaeth mewn un iaith a’i haddasu at wahanol ddibenion mewn iaith arall.

Rwy’n gallu cymhwyso fy sgiliau trawsieithu er mwyn cefnogi fy nysgu mewn ieithoedd cyfarwydd ac ieithoedd newydd.

Rwy’n gallu adnabod, yn annibynnol, gyfleoedd i roi fy sgiliau trawsieithu ar waith er mwyn cyfoethogi’r modd rwy’n dysgu a chyfathrebu yn fy ieithoedd.

Gwrando
Gwrando: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Gwrando am ystyr

Rwy’n gallu gwrando ar, deall a defnyddio cysyniadau sylfaenol mewn iaith, e.e. safle a chymhariaeth.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall a dehongli hanfodion yr hyn rwy’n ei glywed.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall, dehongli ac adalw ystyr gyffredinol yr hyn rwyf wedi’i glywed.

Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr gyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddeall, rhagfynegi a gwerthuso ystyr a syniadau sydd ymhlyg mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth bod rhai seiniau yn newid ar ddechrau geiriau, e.e. dau gi, y gath.

Rwy'n gallu deall bod rhai geiriau yn newid eu ffurf, e.e. ffurfiau lluosog (car>ceir), ffurfiau'r ferf (gweld>gwelais), arddodiaid (ar hi> arni hi), y system holi ac ateb (Ydy? Ydy/Nac ydy), a threigladau.

Datblygu geirfa

Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau yn fy amgylchedd ac o fewn geiriau.

Rwy’n gallu datblygu ac addasu fy ngeirfa drwy wrando, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Rwy’n gallu gwrando er mwyn adeiladu fy ngeirfa, datblygu fy ynganiad, goslef/acenion a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu gwrando er mwyn datblygu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i ddisgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio'n fanwl gywir mewn gwahanol gyd-destunau.

Rwy’n gallu gwrando, adnabod a defnyddio geiriau allweddol i ddeall ystyr gyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i'r maes dysgu a phrofiad/disgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio wrth i mi gyfathrebu.

Gwrando i ddeall

Rwy'n gallu gwrando ar eraill gan dalu sylw cynyddol.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall ac adalw’n ddiweddarach yr hyn rwyf wedi’i glywed.

Rwy’n gallu gwrando ar syniadau/cyflwyniadau pobl eraill, a deall y gallan nhw fod â safbwynt gwahanol i mi, er mwyn ymateb yn briodol.

Rwy’n gallu gwrando ar safbwyntiau a syniadau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan eu defnyddio i lunio fy nghasgliadau fy hun.

Rwy’n gallu gwrando ar safbwyntiau gwahanol bobl, eu gwerthuso'n feirniadol a'u parchu, gan eu defnyddio i lunio fy nghasgliadau ystyriol fy hun.

Rwy’n gallu adnabod a dilyn gwybodaeth a chyfarwyddiadau aml-gam am bynciau ac arferion cyfarwydd ar ffurf lluniau a/neu eiriau.

Rwy’n gallu gwrando ar eraill a deall y gallan nhw fod â safbwynt gwahanol i mi.

Rwy’n gallu gwrando ar a deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan grynhoi’r prif bwyntiau.

Rwy'n gallu gwrando ar wybodaeth a syniadau, a nodi ac esbonio sut maen nhw'n cael eu cyflwyno i hyrwyddo safbwynt penodol (rhagfarn a gwrthrychedd).

Rwy'n gallu gwrando ar ystod o wybodaeth a syniadau o safbwyntiau gwahanol, gan ddadansoddi a gwerthuso sut mae gwahanol siaradwyr yn cyflwyno safbwyntiau penodol.

Rwy’n gallu gwrando ar a deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan adnabod y prif bwyntiau.

Rwy'n gallu defnyddio technegau i gofio prif bwyntiau cyflwyniadau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi, adolygu.

Rwy'n gallu gwrando ar ac ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynir i mi.

Rwy'n gallu gwrando ar ac ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynir i mi.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall ac ymateb i ystod o gwestiynau a chyfarwyddiadau aml-gam mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

Rwy'n gallu defnyddio technegau gwahanol i'm helpu i gofio, cofnodi ac ymateb i'r hyn rwy'n ei glywed.

Rwy'n gallu defnyddio technegau gwahanol i'm helpu i gofio, cofnodi ac ymateb i'r hyn rwy'n ei glywed.

Rwy’n gallu defnyddio ciwiau amrywiol i ragfynegi’r ystyr gyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau llafar cyfarwydd ac anghyfarwydd.

Rwy’n gallu gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn rwyf wedi ei glywed/ei weld a'r hyn rwy'n ei wybod.

Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau am yr hyn a ddywedwyd/a glywyd/a welwyd (gan gynnwys deunydd clyweledol) er mwyn sicrhau fy mod yn deall.

Rwy'n gallu cadarnhau fy mod yn deall yr hyn rwyf wedi'i glywed/ei weld (gan gynnwys deunydd clyweledol) drwy ofyn cwestiynau perthnasol neu wneud sylwadau perthnasol.

Rwy'n gallu gwrando ar eraill ac ymateb iddyn nhw drwy ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau sy'n canolbwyntio ar resymau, goblygiadau a'r camau nesaf.

Rwy'n gallu gwrando ar eraill ac ymateb iddyn nhw drwy gwestiynau, sylwadau ac awgrymiadau er mwyn datblygu sgiliau siarad cydweithredol a dod i gyfaddawd/consensws.

Rwy'n gallu ymateb gyda hyder a sensitifrwydd i syniadau pobl eraill mewn sefyllfaoedd cydweithredol gwahanol, gan fyfyrio ar wybodaeth a syniadau a gofyn cwestiynau perthnasol.

Rwy’n gallu ymuno â chaneuon, rhigymau, straeon a cherddi cyfarwydd, eu hailadrodd neu eu dysgu ar gof.

Rwy'n gallu gwrando ar sgwrs a rhyngweithio grŵp yn bwrpasol er mwyn cyfrannu at drafodaeth grŵp.

Rwy'n gallu gwrando er mwyn dangos cytundeb ac anghytundeb mewn trafodaeth a sefyllfaoedd cydweithredol.

Darllen
Darllen: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemeg

Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau, chwarae â seiniau a thrin seiniau o fewn fy amgylchedd ac o fewn geiriau.

Rwy'n gallu cyfuno ffonemau yn awtomatig ac yn dawel.

Rwy'n gallu defnyddio rhythm, odl, cyflythrennu, sillafau, a rhannu dechrau a diwedd gair er mwyn dysgu darllen.

Rwy’n gallu defnyddio cyfatebiaethau graffem–ffonem wrth ddarllen.

Rwy'n dechrau gwahaniaethu ffonemau rwy'n eu clywed mewn gwahanol safleoedd, e.e. seiniau cychwynnol, llafariaid canol, seiniau terfynol mewn geiriau llafar.

Rwy’n dechrau datblygu'r hyn rwy'n ei wybod am gyfatebiaeth graffemau (llythrennau ysgrifenedig)–ffonemau (seiniau llafar).

Rwy’n dechrau cyfuno ffonemau wrth ddarllen ar goedd.

Rwy'n gallu mynegi ffonemau pan rwy'n gweld y graffemau cyfatebol.

Strategaethau darllen

Rwy'n gallu dangos diddordeb mewn llyfrau a deunyddiau darllen eraill, ac rwy'n mwynhau eu rhannu a'u defnyddio fel darllenydd, e.e. dal llyfrau yn y ffordd gywir a throi tudalennau.

Rwy'n gallu dewis fy neunydd darllen fy hun ar sail diddordeb neu ddiben.

Rwy'n gallu darllen testunau cymhleth yn annibynnol am gyfnodau estynedig.

Rwy'n gallu darllen a chanolbwyntio ar destunau a argraffwyd a thestunau digidol sy'n newydd i mi a diweddaru, ehangu a dyfnhau fy nealltwriaeth o wybodaeth, syniadau a materion.

Rwy'n gallu darllen a dadansoddi ystod o destunau nas gwelais o'r blaen, testunau a argraffwyd a thestunau digidol, gan ganolbwyntio ac yn annibynnol.

Rwy'n gallu segmentu cyfuniadau o lythrennau cyfarwydd ar lafar.

Rwy’n gallu darllen gwahanol destunau gan ddefnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr, gan gynnwys:

  • ffoneg
  • gwreiddiau geiriau a'u teuluoedd
  • strwythur brawddegau ac atalnodi
  • strwythur a threfn testunau
  • gwybodaeth flaenorol am gynnwys a chyd-destun.

Rwy’n gallu darllen geiriau a brawddegau o wahanol destunau gan ddefnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am:

  • wreiddiau geiriau a'u teuluoedd
  • gramadeg, strwythur brawddegau a thestunau cyfan
  • cynnwys a chyd-destun

i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am:

  • wreiddiau geiriau a'u teuluoedd
  • gramadeg, strwythur brawddegau a thestunau cyfan
  • cynnwys a chyd-destun

i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan.

Rwy’n gallu deall bod perthynas un i un rhwng y gair ysgrifenedig a’r gair llafar.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau er mwyn darllen yn fwy rhugl, gan gynnwys adnabod geiriau aml eu defnydd, ciwiau cyd-destun, gwybodaeth flaenorol, ciwiau graffig a chystrawennol a hunangywiro (ailddarllen a darllen ymlaen).

Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr geiriau a brawddegau, gan gynnwys:

  • yr hyn rwy'n ei wybod am ffoneg
  • gwreiddiau geiriau
  • teuluoedd geiriau
  • cystrawen
  • trefn testunau
  • gwybodaeth flaenorol am gyd-destun.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau, e.e. darllen cyflym, darllen agos, anodi, rhagfynegi, i gip ddarllen (sgimio) testunau i gael yr hanfodion, y syniadau a’r themâu allweddol, a’u llithr ddarllen (sganio) am wybodaeth fanwl.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau, e.e. darllen cyflym, darllen agos, anodi, rhagfynegi, i gip ddarllen (sgimio) testunau i gael yr hanfodion, y syniadau a’r themâu allweddol, a’u llithr ddarllen (sganio) am wybodaeth fanwl, gan ddethol a gwneud sylwadau aeddfed ar y syniadau a’r themâu allweddol.

Rwy’n dechrau adnabod a darllen geiriau aml eu defnydd.

Rwy'n gallu dod i gasgliad ynglŷn â syniadau a gwybodaeth drwy gysylltu datganiadau penodol, e.e. achos ac effaith, dilyniant.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau er mwyn dod o hyd i wybodaeth, e.e. cip ddarllen (sgimio) am yr hanfodion, llithr ddarllen (sganio) am fanylion.

Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad i ddeall testunau mwy cymhleth, ac ystyried dibynadwyedd ac effaith yr hyn rwy'n ei ddarllen.

Rwy'n gallu deall testunau'n llawn drwy ddefnyddio sgiliau dehongli, dod i gasgliad a dadansoddi, gan ddeall cyd-destun y testunau sy'n dylanwadu ar y darllenydd.

Rwy'n gallu adnabod geiriau cyfarwydd, e.e. fy enw, a geiriau print yn yr amgylchedd.

Rwy’n gallu dehongli ystyr nad yw wedi ei fynegi'n benodol mewn testun a delweddau, e.e. Beth allai ddigwydd nesaf? Pam wnaeth y cymeriad hynny?

Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad er mwyn deall y testun, ac yn gallu ystyried dibynadwyedd yr hyn rwy'n ei ddarllen.

Rwy'n gallu dangos dealltwriaeth lawn o destunau drwy ddefnyddio sgiliau dehongli, dod i gasgliad a dadansoddi.

Rwy'n gallu dadansoddi ac ymateb i destunau ac is-destunau, gan ddeall, dehongli a gwerthuso ystyr yn hyderus.

Rwy'n gallu dehongli syniadau nad ydyn nhw wedi'u mynegi'n benodol, e.e. safbwyntiau neu agweddau awdur.

Deall, ymateb a dadansoddi

Rwy’n dechrau darllen yn ôl yr hyn rwyf wedi ei ysgrifennu.

Rwy’n gallu darllen ar goedd gyda mynegiant, gan roi sylw i atalnodi, gan gynnwys atalnodau llawn, gofynodau, ebychnodau a dyfynodau, gan amrywio goslef, llais a chyflymder.

Rwy'n gallu darllen amrywiaeth eang o destunau ar goedd gyda mynegiant, gan amrywio goslef, llais a chyflymder.

Rwy'n gallu darllen amrywiaeth o destunau heriol a dilys ar goedd gyda mynegiant, gan amrywio goslef, llais a chyflymder er mwyn cyfleu ystyr.

Rwy'n gallu darllen amrywiaeth o destunau heriol a dilys ar goedd gyda mynegiant, gan amrywio goslef, llais a chyflymder er mwyn cyfleu ystyr.

Rwy’n dechrau dod yn ymwybodol o atalnodau llawn wrth ddarllen.

Rwy'n gallu adnabod y pwnc/thema a dangos fy nealltwriaeth o brif syniadau'r testun.

Rwy'n gallu deall sut y gall atalnodi amrywio, gan effeithio ar strwythur brawddegau ac ystyr, e.e. Ces i afal, cracer a chaws i de.

Rwy'n gallu ymchwilio i amrywiaeth eang o ffynonellau cyfeirio a digidol er mwyn datblygu dealltwriaeth lawn o bwnc neu fater.

Rwy'n gallu ymchwilio'n annibynnol i amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn datblygu dealltwriaeth o bwnc neu fater cynyddol gymhleth.

Rwy’n gallu defnyddio cyd-destun a lluniau i’m helpu i ddeall yr hyn rwy'n ei ddarllen, gan ychwanegu manylion at fy esboniadau.

Rwy'n gallu datblygu fy ngeirfa drwy ddarllen fy hun a chael eraill i ddarllen i mi.

Rwy'n gallu adnabod syniadau a gwybodaeth sydd o ddiddordeb i mi er mwyn datblygu fy nealltwriaeth ymhellach.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adeiladu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain yn effeithiol wrth i mi gyfathrebu.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am wahanol strategaethau darllen er mwyn deall synnwyr geiriau anghyfarwydd mewn cyd-destunau a brawddegau newydd mewn testunau cymhleth, a defnyddio'r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu datblygu fy ngeirfa trwy ddarllen, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei weld a'i ddarllen, gan ofyn cwestiynau a mynegi safbwyntiau a hoffterau.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adeiladu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adnabod safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan eu defnyddio i ddod i'm casgliadau fy hun.

Rwy’n gallu darllen gydag empathi er mwyn parchu a gwerthuso'n feirniadol safbwyntiau gwahanol bobl, a'u hystyried fel sail wrth lunio fy nghasgliadau ystyriol fy hun.

Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei weld a’i ddarllen.

Rwy'n gallu dod o hyd i wybodaeth o wahanol ddeunyddiau rwy'n eu darllen a'i defnyddio, gan gynnwys cip ddarllen (sgimio) er mwyn cael trosolwg o destun a llithr ddarllen (sganio) er mwyn nodi gwybodaeth benodol.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adnabod safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol a datblygu empathi.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng ffeithiau/tystiolaeth a rhagfarn/dadleuon.

Rwy'n gallu deall ac ystyried yn fanwl sut y gellir dehongli testunau, gan wahaniaethu rhwng ffeithiau/tystiolaeth a rhagfarn/dadleuon.

Rwy'n gallu cofio manylion stori neu destun drwy ateb cwestiynau penagored neu gyfeirio at bromptiau.

Rwy’n gallu adnabod nodweddion gwahanol fathau o destunau o ran iaith, strwythur a chyflwyniad, a defnyddio iaith briodol i siarad amdanyn nhw, e.e. erthygl newyddion.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng ffeithiau, damcaniaethau a barn.

Rwy'n gallu adnabod gwahanol ddehongliadau o destun a gwybodaeth a gwerthuso eu rhinweddau cymharol.

Rwy'n gallu ystyried yn fanwl wahanol ddehongliadau o faterion a syniadau, gan ddefnyddio'r testun/amrywiaeth o ffynonellau i gefnogi barn.

Rwyf wedi profi amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau darllen a llenyddiaeth, ac rwy'n gallu dilyn testunau sy'n cael eu darllen ar goedd i mi gan ymateb yn briodol.

Rwy'n gallu defnyddio nodweddion testunau i chwilio am wybodaeth, gan gynnwys cynnwys, mynegeion, rhestrau termau, teitlau, ffotograffau, darluniau, diagramau, tablau a siartiau.

Rwy'n gallu dangos fy mod yn deall y prif syniadau a manylion pwysig mewn gwahanol destunau ar yr un pwnc a'u defnyddio.

Rwy'n gallu darllen yn fanwl, gwneud gwaith dilynol a defnyddio deunyddiau ychwanegol mewn testunau i ymestyn fy nealltwriaeth.

Rwy'n gallu darllen yn fanwl, gan ddadansoddi cynnwys, iaith ac effaith testunau er mwyn dyfnhau fy nealltwriaeth.

Rwy'n gallu dewis gwahanol fathau o ddeunyddiau darllen, gan gynnwys llyfrau.

Rwy'n gallu adnabod dibenion a chynulleidfaoedd bwriadedig gwahanol destunau, e.e. cyfarwyddo, esbonio.

Rwy'n gallu darllen yn fanwl, gan adnabod a nodi nodweddion testunau, e.e. cyflwyniad, dilyniant, darluniau, ffurfioldeb, geirfa allweddol.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am sut mae gwahanol destunau wedi'u strwythuro, eu trefnu a'u cysylltu er mwyn cefnogi fy nealltwriaeth o bwnc, e.e. defnyddio hyperddolenni mewn testun a argraffwyd/testun digidol i ymestyn fy ymchwil a'm dealltwriaeth.

Rwy'n gallu defnyddio testunau a argraffwyd a thestunau digidol i chwilio'n ddethol, gan asesu dibynadwyedd, arwyddocâd a chywirdeb yr hyn rwy'n ei weld.

Rwy'n gallu cysylltu gwybodaeth a syniadau o ddeunydd darllen a llenyddiaeth â phrofiadau personol.

Rwy'n gallu adnabod sut mae testunau wedi'u trefnu, e.e. rhestrau, pwyntiau wedi'u rhifo, diagramau â saethau, tablau a phwyntiau bwled.

Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am adeiladwaith iaith a threfn testunau i gefnogi fy nealltwriaeth.

Rwy'n gallu gwerthuso defnyddioldeb a dibynadwyedd testunau.

Rwy'n gallu gwerthuso diben, effaith a dibynadwyedd testunau yn hyderus.

Rwy’n gallu siarad am y llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen, a mynegi barn syml ac ymateb i'r cynnwys.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn rwy'n ei ddarllen a'r hyn rwy'n ei wybod ac yn ei gredu eisoes am y pwnc.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am wahanol fathau o destunau i ystyried a yw testun yn effeithiol o ran cyfleu gwybodaeth, syniadau a safbwyntiau.

Rwy'n gallu crynhoi, cyfuno a dadansoddi gwybodaeth er mwyn magu dealltwriaeth fanwl, e.e. o achosion, canlyniadau, patrymau, gan ddefnyddio gwahanol ffynonellau.

Rwy'n gallu cyfuno a dadansoddi gwybodaeth er mwyn magu dealltwriaeth eang a chytbwys o ffynonellau a allai gynnwys safbwyntiau croes.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o ddeunydd darllen a llenyddiaeth, e.e. adnabod pethau sy'n debyg ac sy'n wahanol.

Rwy'n gallu defnyddio ffynonellau cyfeirio/digidol i ddewis, crynhoi a chyfuno gwybodaeth, gan gyfeirio atyn nhw fel y bo'n briodol.

Rwy'n gallu cymharu safbwynt gwahanol awduron ar yr un pwnc, e.e. mae llygod mawr yn hynod ddiddorol neu'n bla.

Rwy'n gallu cymharu a gwrthgyferbynnu themâu a syniadau mewn amrywiaeth o destunau yn hyderus, gan gynnwys testunau digidol a chlyweledol, gan ystyried sut maen nhw'n amrywio o ran diben ac effaith.

Rwy'n gallu deall bod testunau'n newid pan fyddan nhw wedi'u haddasu ar gyfer gwahanol gyfryngau a chynulleidfaoedd, e.e. testun ysgrifenedig a fersiwn ffilm.

Rwy'n gallu coladu a gwneud cysylltiadau, e.e blaenoriaethu, categoreiddio, rhwng gwybodaeth a syniadau o wahanol ffynonellau gan gynnwys testunau digidol a chlyweledol.

Rwy'n gallu cymharu a gwrthgyferbynnu themâu a materion mewn amrywiaeth o destunau gan gynnwys testunau digidol a chlyweledol.

Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth a chreu fy ngwaith fy hun.

Siarad
Siarad: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Eglurder a geirfa

Rwy’n gallu cynhyrchu llawer o seiniau llafar yn gywir.

Rwy’n gallu siarad yn glir, gan amrywio mynegiant ac ystumiau er mwyn cyfleu fy syniadau a helpu gwrandawyr.

Rwy’n gallu siarad yn glir, gan adnabod yr iaith briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion, a chan amrywio fy mynegiant, geirfa, tôn ac ystumiau i ennyn diddordeb y gynulleidfa.

Rwy’n gallu siarad yn glir, gan ddewis ac addasu fy iaith yn briodol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a dibenion, a chan gyfleu ystyr yn effeithiol i’r gynulleidfa.

Rwy'n gallu siarad yn rhugl ac yn hyderus, gan ddefnyddio ystod o dechnegau, edrychiadau ac ystumiau.

Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau, chwarae â seiniau a thrin seiniau o fewn fy amgylchedd yn ogystal ag o fewn geiriau.

Rwy’n gallu datblygu ac addasu fy ngeirfa drwy wrando a darllen, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Rwy’n gallu myfyrio ar safon fy mynegiant a defnyddio ystod o strategaethau i sicrhau mwy o eglurder yn fy nghyfathrebu llafar, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd ffurfiol.

Rwy’n gallu argyhoeddi wrth gyfleu ystyr mewn ystod o gyd-destunau gan ennyn diddordeb llawn y gynulleidfa.

Rwy'n gallu cyflwyno syniadau a materion er mwyn bodloni gofynion gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy’n gallu defnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd ac arbrofi â geirfa rwyf newydd ei dysgu.

Rwy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol amrywiol ac yn gynyddol fanwl gywir.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau priodol am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac yn eglur.

Rwy’n gallu myfyrio ar fy nefnydd o strategaethau i wella ansawdd, cywirdeb ac effaith fy nghyfathrebu llafar, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd ffurfiol.

Rwy’n gallu myfyrio’n feirniadol ar fy nefnydd o iaith ac yn gallu ystyried yn wrthrychol effaith fy nghyfathrebu llafar.

Rwy’n gallu cyfathrebu ystyr gan ddefnyddio iaith lafar estynedig a/neu ystum.

Rwy’n gallu amrywio’r math o frawddegau rwy’n eu defnyddio yn fy iaith lafar.

Rwy'n gallu mynegi materion a syniadau'n glir gan ddefnyddio geirfa sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth ac enghreifftiau.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn gywir ac yn eglur.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o eirfa sy'n benodol i ddisgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol wrth i mi gyfathrebu.

Rwy'n gallu adnabod y seiniau sydd yn aml yn newid ar ddechrau geiriau a chymhwyso'r newidiadau hynny mewn rhai cyd-destunau lle y bo angen treiglo, e.e. yn gyflym, digon o le.

Rwy'n gallu adnabod geiriau sydd wedi eu treiglo, ac yn gallu cymhwyso'r newidiadau hynny mewn llawer o gyd-destunau gorfodol, gan gynnwys:

  • treiglad meddal ar ôl 'ei' gwrywaidd, e.e. ei goes ef, ac ar ôl nifer o arddodiaid
  • treiglad meddal (heblaw am ll a rh) ar ôl 'yn' traethiadol, e.e. yn gyflym
  • treiglad trwynol ar ôl 'fy', e.e. fy nghoes i, ac ar ôl yr arddodiad 'yn', e.e. yng Nghaerffili
  • treiglad llaes ar ôl 'ei' benywaidd, e.e. ei choes hi, ac ar gyfer enwau gyda chyfeiryddion dynol.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig soffistigedig a chywair priodol mewn ystod o gyd-destunau.

Rwy'n gallu adnabod y defnydd o dreigladau, a hepgoriadau a/neu'r defnydd o dreiglad amhriodol pan ddisgwylir math arall o dreiglad.

Rwy'n gallu adnabod yr amrywiol ddefnyddiau o dreigladau a chymhwyso pob un o'r tair proses (treiglad meddal, treiglad trwynol a threiglad llaes) mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau lle y dylid treiglo.

Rwy'n dechrau adnabod cenedl enwau ac effaith hynny ar dreigladau, e.e. ysgol gynradd (ysgolion cynradd), cadair goch (cadeiriau coch).

Rwy'n gallu dangos datblygiad parhaus o ran fy ngallu i nodi cenedl enwau drwy dreiglo lle y bo’n briodol, e.e. yr enw ei hun (y gath), ansoddeiriau cysylltiedig (y gath fach, lwyd), gan sicrhau cysondeb mewn patrymau cyfeirio pellach, e.e. Cafodd y gath fach, lwyd, ei chipio o'i chynefin. Druan ohoni.

Diben

Rwy’n gallu rhannu syniadau a theimladau a mynegi’r hyn rwy'n ei hoffi a'r hyn nad wyf yn ei hoffi.

Rwy’n gallu esbonio gwybodaeth a rhannu syniadau, barn a theimladau gan ddefnyddio geirfa berthnasol.

Rwy'n gallu rhannu, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn gan ddefnyddio ystod o dechnegau i ddangos effaith.

Rwy’n gallu rhannu, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn, gan ddangos empathi a pharch.

Rwy'n gallu rhannu, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn mewn cyd-destunau cynyddol heriol a dadleuol.

Rwy’n gallu deall a defnyddio cysyniadau sylfaenol mewn iaith, e.e. i fyny/i lawr, mwy/llai, hapus/trist.

Rwy'n gallu defnyddio iaith lafar/cyfathrebu at ddibenion gwahanol, e.e. esbonio, darbwyllo, cwestiynu a negodi.

Rwy'n gallu trefnu sgwrs fel y gall gwahanol gynulleidfaoedd mewn gwahanol gyd-destunau ddilyn yr hyn sy'n cael ei ddweud, gan gynnwys defnyddio iaith ffurfiol.

Rwy'n gallu trefnu'r hyn sy'n cael ei ddweud yn effeithiol er mwyn ymateb i adwaith gwrandawyr drwy addasu'r hyn rwy'n ei ddweud a'r ffordd rwy'n ei ddweud.

Rwy’n gallu trefnu'r hyn sy'n cael ei ddweud yn effeithiol er mwyn gwerthuso'n feirniadol ac ymateb i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld.

Rwy'n gallu mynegi diddordeb a mwynhad.

Rwy'n gallu trefnu'r hyn rwy'n ei ddweud fel y gall gwrandawyr ddeall, e.e. pwysleisio pwyntiau allweddol, dilyniannu esboniad.

Rwy'n gallu ailadrodd digwyddiadau neu brofiadau mewn iaith syml.

Rwy’n gallu disgrifio gwrthrychau a digwyddiadau, gan adeiladu ac ymestyn fy ngeirfa.

Rwy’n dechrau defnyddio iaith briodol i siarad am ddigwyddiadau yn y gorffennol a’r dyfodol.

Siarad cydweithredol

Rwy’n dechrau cymryd fy nhro mewn sgyrsiau, gan ddilyn y pwnc dan sylw.

Rwy'n gallu siarad yn bwrpasol i gyfrannu at drafodaeth grŵp, gan rannu syniadau a gwybodaeth.

Rwy'n gallu cyfrannu at drafodaeth grŵp mewn rolau gwahanol, gan gymryd cyfrifoldeb am gwblhau'r dasg yn dda.

Rwy'n gallu ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau i strwythuro a datblygu siarad mewn grŵp, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o opsiynau a strategaethau i alluogi’r grŵp i wneud cynnydd a dod i gonsensws.

Rwy’n dechrau siarad â’m cyfoedion yn iaith y lleoliad/ysgol.

Rwy’n gallu ymgymryd ag ystod o rolau a rheoli fy nghyfraniadau'n briodol.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwy'n gallu adnabod ystod o opsiynau ar gyfer gweithredu a dod i gytundeb er mwyn cyflawni nodau'r grŵp.

Rwy'n gallu ymateb yn hyderus i'r ffordd y mae gwrandawyr yn ymateb, gan addasu fy iaith mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwy'n gallu ystyried materion heriol neu ddadleuol drwy amrywiaeth o gyd-destunau dilys, gan gynnwys cynnal rôl.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwy’n gallu newid y modd rwy’n cyfathrebu, yn ôl lle’r wyf i a chyda phwy, gan gynnwys sefyllfaoedd ffurfiol.

Rwy'n gallu defnyddio sgiliau siarad mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys er mwyn ystyried materion heriol neu ddadleuol.

Rwy'n gallu ystyried materion heriol neu ddadleuol yn hyderus ac yn gyson drwy gynnal rolau mewn sefyllfaoedd, cyd-destunau a dibenion ffurfiol.

Rwy'n gallu cyflwyno syniadau a materion er mwyn bodloni gofynion gwahanol gynulleidfaoedd.

Gofyn cwestiynau

Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau er mwyn i mi ddeall yn well.

Rwy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau a chyfnewid syniadau a gwybodaeth am bynciau (cyfarwydd neu newydd).

Rwy'n gallu gofyn ac ateb cwestiynau, gan adeiladu ar syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp a'u datblygu.

Rwy'n gallu cynnal safbwynt argyhoeddiadol, gan ragweld safbwyntiau eraill ac ymateb iddyn nhw.

Rwy'n gallu siarad o safbwyntiau argyhoeddiadol amrywiol er mwyn bodloni gofynion gwahanol sefyllfaoedd, cyd-destunau a dibenion.

Rwy'n gallu mynegi barn, gan roi rhesymau ac atebion priodol i gwestiynau.

Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan geisio eglurder, crynhoi ac esbonio’r hyn rwyf wedi ei glywed, ei ddarllen neu ei weld.

Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd hyderus a sensitif, gan grynhoi a gwerthuso'r hyn rwyf wedi ei glywed, ei ddarllen neu ei weld.

Rwy'n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau, e.e. cwestiynau rhethregol, ystumiau.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus i wella fy sgiliau cyfathrebu.

Ysgrifennu
Ysgrifennu: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Geirfa, sillafu, gramadeg

Rwy’n gallu cyfathrebu gan wneud marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Rwy’n gallu ysgrifennu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol ddychmygus, amrywiol a manwl gywir.

Rwy'n gallu defnyddio geirfa amrywiol, briodol a manwl gywir, gan gynnwys geiriau sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth at ddibenion gwahanol.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio wrth i mi gyfathrebu.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o eirfa sy'n benodol i ddisgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol yn fanwl gywir.

Rwy'n dechrau rhoi symbolau, arwyddion neu eiriau yn eu dilyniant priodol.

Rwy'n gallu defnyddio ffurfiau iaith safonol, gan gynnwys ffurfiau cryno, e.e. rwy’n gweld/gwelodd e, a chytundeb rhwng y goddrych a'r ferf, e.e. roeddwn i, roedd hi.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau priodol am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac yn eglur ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol ac at ddibenion gwahanol.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a ffigurol, a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn gywir ac yn eglur.

Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig soffistigedig a chywair priodol mewn ystod o gyd-destunau.

Rwy'n gallu adnabod natur trefn yr wyddor ysgrifennu a deall bod i symbolau ysgrifenedig ystyr.

Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am seiniau a phatrymau llythrennau'n gywir wrth i mi sillafu, gan gynnwys:

  • cytsain–llafariad–cytsain
  • llythrennau dwbl cyffredin, e.e. ch, ll
  • gwreiddiau syml, e.e. rhagddodiaid -an
  • ôl-ddodiaid, e.e. -wyr
  • terfyniadau lluosog yn gywir yn eu cyd-destun, e.e. -au, -iau, -od,
  • amser gorffennol berfau yn gyson, e.e. gwelais i, cysgais i.

Rwy'n gallu defnyddio iaith briodol ar gyfer ysgrifennu, gan gynnwys ffurfiau safonol, e.e. enwau, rhagenwau, ansoddeiriau, adferfau, arddodiaid, cysyllteiriau ac amseroedd y ferf.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau i sillafu geirfa gyfarwydd ac anghyfarwydd a geiriau sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth yn gywir.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau i sillafu geiriau sy'n benodol i ddisgyblaeth a geiriau academaidd cyffredinol mewn cyd-destunau priodol.

Rwy'n gallu ysgrifennu o'r chwith i'r dde.

Rwy'n gallu rhoi ymgais ar sillafu geiriau anoddach mewn ffordd resymol gan ddefnyddio ystod o strategaethau, gan gynnwys:

  • teuluoedd geiriau
  • gwreiddiau
  • morffoleg
  • gwybod am graffigau
  • gwybod am ffonemau, e.e. segmentu gair yn ffonemau unigol.

Rwy'n gallu defnyddio ffurf safonol amrywiaeth o eiriau, e.e. ffurfiau'r presennol, ffurfiau'r gorffennol a ffurfiau negyddol.

Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy ac yn rhugl.

Rwy'n gallu deall a defnyddio confensiynau ffurfiol iaith at ddibenion amrywiol, gan wneud defnydd effeithiol o adnoddau cyfeirio a chymhorthion cywirdeb.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng llythrennau.

Rwy’n gallu sillafu geiriau aml eu defnydd afreolaidd yn gywir.

Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am seiniau a phatrymau llythrennau'n gywir wrth i mi sillafu, gan gynnwys:

  • gwreiddiau, e.e. uwch, rhag
  • ôl-ddodiaid, e.e. -ydd, -ant
  • terfyniadau lluosog yn gywir yn eu cyd-destun, e.e. -au, -iau, -od.

Rwy'n gallu cyflwyno fy ngwaith yn briodol mewn cyd-destunau digidol gan ddefnyddio confensiynau digidol priodol, e.e. cryno-luniau, dewis iaith.

Rwy'n gallu adnabod yr amrywiol ddefnyddiau o dreigladau a chymhwyso pob un o'r tair proses (treiglad meddal, treiglad trwynol a threiglad llaes) mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau treigladwy.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach.

Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau i sillafu geiriau amlsillafog, cymhleth ac afreolaidd yng nghyd-destun pob maes dysgu a phrofiad.

Rwy'n gallu adnabod y defnydd o dreigladau, hepgoriadau mewn cyd-destunau gorfodol a/neu'r defnydd o dreiglad amhriodol pan ddisgwylir math arall o dreiglad.

Rwy'n gallu dangos datblygiad parhaus o ran fy ngallu i nodi cenedl enwau drwy dreiglo lle y bo’n briodol, e.e. yr enw ei hun (y gath), ansoddeiriau cysylltiedig (y gath fach, lwyd), gan sicrhau cysondeb mewn patrymau cyfierio pellach, e.e. Cafodd y gath fach, lwyd, ei chipio o'i chynefin. Druan ohoni.

 

Rwy'n gallu ffurfio llythrennau.

Rwy'n gallu adnabod y llythrennau sydd yn aml yn newid ar ddechrau geiriau a chymhwyso'r newidiadau hynny mewn rhai cyd-destunau lle y bo angen treiglo.

Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy ac yn rhugl.

Rwy'n gallu adnabod cenedl enwau ac effaith hynny ar dreigladau, e.e. ysgol gynradd (ysgolion cynradd), cadair goch (cadeiriau coch).

Rwy'n gallu ysgrifennu brawddegau sy'n gywir yn ramadegol gan redeg rhagddodiaid, a sicrhau amser y ferf, a chyfatebiaeth rhwng person a chytundeb o ran cenedl.

Rwy'n gallu ysgrifennu geiriau ac ymadroddion gan ddefnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am lythrennau a'r seiniau maen nhw'n eu cynrychioli.

Rwy'n gallu ffurfio fersiynau lluosog o enwau cyfarwydd diriaethol.

Rwy'n gallu cyflwyno fy ngwaith yn briodol mewn cyd-destunau digidol.

Rwy'n gallu llunio ffurfiau lluosog gyda'r newid llafariad/deusain priodol, e.e. car>ceir.

Rwy'n gallu segmentu geiriau yn sillafau ac yn seiniau er mwyn fy helpu i sillafu.

Rwy'n gallu sillafu rhai geiriau gan ddefnyddio'r llafariad briodol y/u/i, e.e. tŷ, llun, hir, a deuseiniaid, e.e. coed.

Rwy'n gallu treiglo'n gywir yn ôl y gofyn, gan gynnwys:

  • treiglad meddal ar ôl 'ei' gwrywaidd, e.e. ei goes ef, ac ar ôl 'yn' traethiadol, e.e. yn gyflym
  • treiglad trwynol ar ôl 'fy', e.e. fy nghoes i, ac ar ôl yr arddodiad 'yn', e.e. yng Nghaerffili
  • treiglad llaes ar ôl 'ei' benywaidd, e.e. ei choes hi, ac ar gyfer cenedl enwau.

Rwy'n gallu ysgrifennu brawddegau sy'n gywir yn ramadegol gan roi sylw i rediad ac amser y ferf, a chyfatebiaeth rhwng person a chytundeb o ran cenedl.

Rwy'n dechrau ysgrifennu gan ddefnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd.

Rwy'n gallu ffurfio lluosog, e.e. drwy ychwanegu terfyniad (merch>merched), newid bôn (bachgen>bechgyn), cyfuniad o'r ddau (braich>breichiau) a thynnu terfyniad (coeden>coed).

Rwy'n dechrau ffurfio llythrennau'n gywir gan ddal yn briodol yn yr offer ysgrifennu.

Rwy'n gallu newid llafariaid a deuseiniaid yn briodol ac addasu geiriau o ran ystyr, gan newid rhwng enwau unigol a lluosog neu nodi cenedl enwau benywaidd wrth ychwanegu ansoddair benywaidd, e.e. taflen werdd, cath wen.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth bod rhai llythrennau yn newid ar ddechrau geiriau, e.e. dau gi, y gath.

Cysyllteiriau a chystrawen

Rwy’n gallu defnyddio brawddegau syml ac aml-gymalog gan wneud dewisiadau er mwyn cyrraedd y gynulleidfa a chyflawni’r diben a fwriadwyd, gan gynnwys:

  • cysyllteiriau i ymhelaethu ar bwynt
  • cysyllteiriau i ysgrifennu brawddegau cyfansawdd
  • cysyllteiriau ar gyfer achos a chanlyniad, e.e. oherwydd, ar ôl
  • dechrau brawddegau mewn amrywiaeth o ffyrdd
  • ansoddeiriau ac adferfau.

Rwy'n gallu defnyddio strwythurau brawddeg syml, cyfansawdd a chymhleth er pwyslais ac effaith.

Rwy'n gallu dewis a defnyddio amrywiaeth o wahanol strwythurau brawddeg (brawddegau syml, cyfansawdd a chymhleth) gyda chywirdeb gramadegol wrth i mi ysgrifennu.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth estynedig o ddarllenwyr gwahanol drwy ddewis o blith amrywiaeth o arddulliau a strwythurau, ac addasu'r ffordd rwy'n defnyddio iaith yn hyderus.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth gynyddol o gysyllteiriau i drefnu fy syniadau mewn brawddegau, paragraffau a thestunau cyfan.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth o gysyllteiriau'n benodol wrth drefnu fy syniadau yn destunau cyfan at wahanol ddibenion.

Rwy'n gallu amrywio strwythurau brawddegau i ennyn a chadw diddordeb y darllenydd ac ysgrifennu gyda chywirdeb gramadegol.

Atalnodi

Rwy’n ymwybodol o sut mae geiriau’n cael eu gwahanu gan fylchau.

Rwy'n gallu defnyddio atalnodi cyfarwydd, gan gynnwys prif lythrennau, atalnodau llawn, gofynodau, ebychnodau, comas ar gyfer rhestrau, a chollnodau i ddangos hepgor llythyren.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o atalnodau'n gywir (gan gynnwys collnod) i egluro ac ehangu ar ystyr.

Rwy'n defnyddio'r ystod lawn o atalnodau'n gywir (gan gynnwys colonau, hanner colonau a chromfachau) i egluro, trefnu ac ehangu ar ystyr.

Rwy'n gallu defnyddio'r ystod lawn o atalnodau er mwyn amrywio cyflymder, egluro ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol.

Rwy’n dechrau dod yn ymwybodol o sut mae prif lythrennau ac atalnodau llawn yn pennu ffiniau brawddegau.

Rwy'n gallu dechrau defnyddio comas i nodi cymalau ac ymadroddion, e.e. ar ôl ymadrodd adferol blaen 'Nes ymlaen y bore hwnnw, aethon ni i’r castell'.

Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destunau

Rwy’n dechrau deall y gellir ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy'n gallu ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer cynulleidfaoedd dilys, go iawn neu ddychmygol.

Rwy'n gallu addasu arddull a strwythur fy ysgrifennu i fod yn addas i'r gynulleidfa, y diben a'r cyd-destun, e.e. cydbwysedd addas rhwng ffeithiau a safbwyntiau, casgliad penodol.

Rwy'n gallu addasu fy arddull ysgrifennu, gan ddewis a defnyddio'r strwythurau gorau ar gyfer gwahanol gyd-destunau a dibenion, e.e. i ddisgrifio, esbonio, darbwyllo, trafod yn llwyddiannus.

Rwy'n gallu ysgrifennu darnau estynedig sy'n cynnwys tystiolaeth a gwybodaeth fanwl at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd o fewn gwahanol ddisgyblaethau a rhyngddyn nhw.

Rwy’n gallu ymateb yn greadigol i’r ystod o lenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen.

Rwy'n gallu defnyddio sgiliau siarad i gynllunio gwaith ysgrifennu a chofnodi fy syniadau i'w defnyddio wrth ysgrifennu.

Rwy'n gallu ysgrifennu disgrifiad cynhwysfawr o bwnc, thema neu safbwynt.

Rwy'n gallu defnyddio crynodebau, trafod materion, rhoi esboniadau manwl a defnyddio rhesymeg wrth ymdrin â phwnc.

Rwy'n gallu crynhoi gyda hyder, gan addasu arddull a ffurf yn ôl y darllenydd neu'r gynulleidfa fwriadedig a diben y gwaith ysgrifennu.

Rwy’n dechrau cyfathrebu gan ddefnyddio testun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo.

Rwy'n gallu trefnu fy ngwaith ysgrifennu mewn dilyniant rhesymegol, e.e. ysgrifennu drwy ddefnyddio cyflwyniad i'r pwnc a chasgliad, cyflwyno gwybodaeth fel proses, defnyddio geiriau trefnu.

Rwy'n gallu defnyddio ac addasu gwahanol strwythurau yn fy ngwaith ysgrifennu, e.e. adroddiad ar ddigwyddiad, ymchwiliad neu arbrawf.

Rwy'n gallu ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn gan ddefnyddio ystod o dechnegau, e.e. iaith emosiynol, gor-ddweud, dewis rhagenwau (chi, ni), i ddangos effaith.

Rwy'n gallu ysgrifennu'n aeddfed am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn mewn cyd-destunau cynyddol heriol a dadleuol.

Rwy’n gallu cyfrannu at ysgrifennu ar y cyd ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion.

Rwy'n gallu dechrau strwythuro fy ngwaith ysgrifennu drwy ddefnyddio paragraffau.

Rwy’n gallu ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn, gan ddangos empathi a pharch.

Rwy’n gallu dewis a defnyddio strategaethau priodol er mwyn cynllunio a datblygu fy ngwaith ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy'n gallu cyfleu safbwynt gwrthrychol a diduedd ar bynciau cymhleth, gan ddefnyddio ystod o ddyfeisiau ieithyddol.

Rwy'n gallu ystyried ffyrdd gwahanol o gynllunio, drafftio a chyflwyno fy ngwaith yn briodol.

Rwy'n gallu trefnu a llunio fy ngwaith ysgrifennu'n effeithiol, gan gysylltu a datblygu fy syniadau ar gyfer amrywiaeth o wahanol gyd-destunau.

Rwy'n gallu dewis a defnyddio strategaethau priodol i gynllunio a datblygu fy ngwaith ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth heriol o wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd.

Rwy'n gallu ysgrifennu cyflwyniad effeithiol sy'n nodi'r cyd-destun a'r diben, gan gynnwys cydbwysedd addas rhwng ffeithiau a safbwyntiau, a chasgliad penodol.

Rwy'n gallu defnyddio paragraffau ac adrannau er mwyn rhoi eglurder i ddarnau ysgrifennu mwy estynedig.

Rwy'n gallu trefnu gwaith ysgrifennu ar ffurf briodol, gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei nodi o fewn a rhwng paragraffau neu adrannau, a chan ddatblygu a chynnal syniadau'n gydlynus.

Rwy'n gallu defnyddio paragraffau a gwneud cysylltiadau rhyngddyn nhw.

Prawfddarllen, golygu a gwella

Rwy’n gallu edrych dros fy ngwaith ac rwy’n dechrau defnyddio ystod o strategaethau ac adnoddau cyfarwydd i wella fy ngwaith ysgrifennu.

Rwy’n gallu myfyrio ar safon fy mynegiant, ei olygu a'i ailddrafftio i wella'r ansawdd, a defnyddio ystod o strategaethau i sicrhau mwy o eglurder.

Rwy'n gallu gwella gwaith ysgrifennu drwy adolygu annibynnol ac ailddrafftio.

Rwy'n gallu gwella cynnwys, strwythur a chywirdeb fy ngwaith ysgrifennu drwy fyfyrio'n feirniadol, adolygu a golygu, gan ymateb yn adeiladol i adborth.

Rwy’n gallu esbonio ble a pham rwyf wedi gwneud unrhyw newidiadau neu gywiriadau.