LNF Cymru Llythrennedd a rhifedd i Gymru

Rhan o Fframweithiau'r sgiliau trawsgwricwlaidd

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

Llythrennedd

Trawsieithu
Trawsieithu: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Trawsieithu

Rwy’n dechrau defnyddio gwybodaeth sydd wedi’i chyflwyno mewn un iaith a’i mynegi yn fy ngeiriau fy hun mewn iaith arall.

Rwy’n gallu derbyn gwybodaeth mewn un iaith a’i haddasu at wahanol ddibenion mewn iaith arall.

Rwy’n gallu cymhwyso fy sgiliau trawsieithu er mwyn cefnogi fy nysgu mewn ieithoedd cyfarwydd ac ieithoedd newydd.

Rwy’n gallu adnabod, yn annibynnol, gyfleoedd i roi fy sgiliau trawsieithu ar waith er mwyn cyfoethogi’r modd rwy’n dysgu a chyfathrebu yn fy ieithoedd.

Gwrando
Gwrando: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Gwrando am ystyr

Rwy’n gallu gwrando ar, deall a defnyddio cysyniadau sylfaenol mewn iaith, e.e. safle a chymhariaeth.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall a dehongli hanfodion yr hyn rwy’n ei glywed.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall, dehongli ac adalw ystyr gyffredinol yr hyn rwyf wedi’i glywed.

Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr gyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddeall, rhagfynegi a gwerthuso ystyr a syniadau sydd ymhlyg mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth bod rhai seiniau yn newid ar ddechrau geiriau, e.e. dau gi, y gath.

Rwy'n gallu deall bod rhai geiriau yn newid eu ffurf, e.e. ffurfiau lluosog (car>ceir), ffurfiau'r ferf (gweld>gwelais), arddodiaid (ar hi> arni hi), y system holi ac ateb (Ydy? Ydy/Nac ydy), a threigladau.

Datblygu geirfa

Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau yn fy amgylchedd ac o fewn geiriau.

Rwy’n gallu datblygu ac addasu fy ngeirfa drwy wrando, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Rwy’n gallu gwrando er mwyn adeiladu fy ngeirfa, datblygu fy ynganiad, goslef/acenion a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu gwrando er mwyn datblygu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i ddisgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio'n fanwl gywir mewn gwahanol gyd-destunau.

Rwy’n gallu gwrando, adnabod a defnyddio geiriau allweddol i ddeall ystyr gyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i'r maes dysgu a phrofiad/disgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio wrth i mi gyfathrebu.

Gwrando i ddeall

Rwy'n gallu gwrando ar eraill gan dalu sylw cynyddol.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall ac adalw’n ddiweddarach yr hyn rwyf wedi’i glywed.

Rwy’n gallu gwrando ar syniadau/cyflwyniadau pobl eraill, a deall y gallan nhw fod â safbwynt gwahanol i mi, er mwyn ymateb yn briodol.

Rwy’n gallu gwrando ar safbwyntiau a syniadau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan eu defnyddio i lunio fy nghasgliadau fy hun.

Rwy’n gallu gwrando ar safbwyntiau gwahanol bobl, eu gwerthuso'n feirniadol a'u parchu, gan eu defnyddio i lunio fy nghasgliadau ystyriol fy hun.

Rwy’n gallu adnabod a dilyn gwybodaeth a chyfarwyddiadau aml-gam am bynciau ac arferion cyfarwydd ar ffurf lluniau a/neu eiriau.

Rwy’n gallu gwrando ar eraill a deall y gallan nhw fod â safbwynt gwahanol i mi.

Rwy’n gallu gwrando ar a deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan grynhoi’r prif bwyntiau.

Rwy'n gallu gwrando ar wybodaeth a syniadau, a nodi ac esbonio sut maen nhw'n cael eu cyflwyno i hyrwyddo safbwynt penodol (rhagfarn a gwrthrychedd).

Rwy'n gallu gwrando ar ystod o wybodaeth a syniadau o safbwyntiau gwahanol, gan ddadansoddi a gwerthuso sut mae gwahanol siaradwyr yn cyflwyno safbwyntiau penodol.

Rwy’n gallu gwrando ar a deall gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan adnabod y prif bwyntiau.

Rwy'n gallu defnyddio technegau i gofio prif bwyntiau cyflwyniadau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi, adolygu.

Rwy'n gallu gwrando ar ac ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynir i mi.

Rwy'n gallu gwrando ar ac ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynir i mi.

Rwy’n gallu gwrando ar, deall ac ymateb i ystod o gwestiynau a chyfarwyddiadau aml-gam mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

Rwy'n gallu defnyddio technegau gwahanol i'm helpu i gofio, cofnodi ac ymateb i'r hyn rwy'n ei glywed.

Rwy'n gallu defnyddio technegau gwahanol i'm helpu i gofio, cofnodi ac ymateb i'r hyn rwy'n ei glywed.

Rwy’n gallu defnyddio ciwiau amrywiol i ragfynegi’r ystyr gyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau llafar cyfarwydd ac anghyfarwydd.

Rwy’n gallu gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn rwyf wedi ei glywed/ei weld a'r hyn rwy'n ei wybod.

Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau am yr hyn a ddywedwyd/a glywyd/a welwyd (gan gynnwys deunydd clyweledol) er mwyn sicrhau fy mod yn deall.

Rwy'n gallu cadarnhau fy mod yn deall yr hyn rwyf wedi'i glywed/ei weld (gan gynnwys deunydd clyweledol) drwy ofyn cwestiynau perthnasol neu wneud sylwadau perthnasol.

Rwy'n gallu gwrando ar eraill ac ymateb iddyn nhw drwy ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau sy'n canolbwyntio ar resymau, goblygiadau a'r camau nesaf.

Rwy'n gallu gwrando ar eraill ac ymateb iddyn nhw drwy gwestiynau, sylwadau ac awgrymiadau er mwyn datblygu sgiliau siarad cydweithredol a dod i gyfaddawd/consensws.

Rwy'n gallu ymateb gyda hyder a sensitifrwydd i syniadau pobl eraill mewn sefyllfaoedd cydweithredol gwahanol, gan fyfyrio ar wybodaeth a syniadau a gofyn cwestiynau perthnasol.

Rwy’n gallu ymuno â chaneuon, rhigymau, straeon a cherddi cyfarwydd, eu hailadrodd neu eu dysgu ar gof.

Rwy'n gallu gwrando ar sgwrs a rhyngweithio grŵp yn bwrpasol er mwyn cyfrannu at drafodaeth grŵp.

Rwy'n gallu gwrando er mwyn dangos cytundeb ac anghytundeb mewn trafodaeth a sefyllfaoedd cydweithredol.

Darllen
Darllen: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemeg

Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau, chwarae â seiniau a thrin seiniau o fewn fy amgylchedd ac o fewn geiriau.

Rwy'n gallu cyfuno ffonemau yn awtomatig ac yn dawel.

Rwy'n gallu defnyddio rhythm, odl, cyflythrennu, sillafau, a rhannu dechrau a diwedd gair er mwyn dysgu darllen.

Rwy’n gallu defnyddio cyfatebiaethau graffem–ffonem wrth ddarllen.

Rwy'n dechrau gwahaniaethu ffonemau rwy'n eu clywed mewn gwahanol safleoedd, e.e. seiniau cychwynnol, llafariaid canol, seiniau terfynol mewn geiriau llafar.

Rwy’n dechrau datblygu'r hyn rwy'n ei wybod am gyfatebiaeth graffemau (llythrennau ysgrifenedig)–ffonemau (seiniau llafar).

Rwy’n dechrau cyfuno ffonemau wrth ddarllen ar goedd.

Rwy'n gallu mynegi ffonemau pan rwy'n gweld y graffemau cyfatebol.

Strategaethau darllen

Rwy'n gallu dangos diddordeb mewn llyfrau a deunyddiau darllen eraill, ac rwy'n mwynhau eu rhannu a'u defnyddio fel darllenydd, e.e. dal llyfrau yn y ffordd gywir a throi tudalennau.

Rwy'n gallu dewis fy neunydd darllen fy hun ar sail diddordeb neu ddiben.

Rwy'n gallu darllen testunau cymhleth yn annibynnol am gyfnodau estynedig.

Rwy'n gallu darllen a chanolbwyntio ar destunau a argraffwyd a thestunau digidol sy'n newydd i mi a diweddaru, ehangu a dyfnhau fy nealltwriaeth o wybodaeth, syniadau a materion.

Rwy'n gallu darllen a dadansoddi ystod o destunau nas gwelais o'r blaen, testunau a argraffwyd a thestunau digidol, gan ganolbwyntio ac yn annibynnol.

Rwy'n gallu segmentu cyfuniadau o lythrennau cyfarwydd ar lafar.

Rwy’n gallu darllen gwahanol destunau gan ddefnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr, gan gynnwys:

  • ffoneg
  • gwreiddiau geiriau a'u teuluoedd
  • strwythur brawddegau ac atalnodi
  • strwythur a threfn testunau
  • gwybodaeth flaenorol am gynnwys a chyd-destun.

Rwy’n gallu darllen geiriau a brawddegau o wahanol destunau gan ddefnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am:

  • wreiddiau geiriau a'u teuluoedd
  • gramadeg, strwythur brawddegau a thestunau cyfan
  • cynnwys a chyd-destun

i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am:

  • wreiddiau geiriau a'u teuluoedd
  • gramadeg, strwythur brawddegau a thestunau cyfan
  • cynnwys a chyd-destun

i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan.

Rwy’n gallu deall bod perthynas un i un rhwng y gair ysgrifenedig a’r gair llafar.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau er mwyn darllen yn fwy rhugl, gan gynnwys adnabod geiriau aml eu defnydd, ciwiau cyd-destun, gwybodaeth flaenorol, ciwiau graffig a chystrawennol a hunangywiro (ailddarllen a darllen ymlaen).

Rwy’n gallu defnyddio ystod o strategaethau i bennu ystyr geiriau a brawddegau, gan gynnwys:

  • yr hyn rwy'n ei wybod am ffoneg
  • gwreiddiau geiriau
  • teuluoedd geiriau
  • cystrawen
  • trefn testunau
  • gwybodaeth flaenorol am gyd-destun.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau, e.e. darllen cyflym, darllen agos, anodi, rhagfynegi, i gip ddarllen (sgimio) testunau i gael yr hanfodion, y syniadau a’r themâu allweddol, a’u llithr ddarllen (sganio) am wybodaeth fanwl.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau, e.e. darllen cyflym, darllen agos, anodi, rhagfynegi, i gip ddarllen (sgimio) testunau i gael yr hanfodion, y syniadau a’r themâu allweddol, a’u llithr ddarllen (sganio) am wybodaeth fanwl, gan ddethol a gwneud sylwadau aeddfed ar y syniadau a’r themâu allweddol.

Rwy’n dechrau adnabod a darllen geiriau aml eu defnydd.

Rwy'n gallu dod i gasgliad ynglŷn â syniadau a gwybodaeth drwy gysylltu datganiadau penodol, e.e. achos ac effaith, dilyniant.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o strategaethau er mwyn dod o hyd i wybodaeth, e.e. cip ddarllen (sgimio) am yr hanfodion, llithr ddarllen (sganio) am fanylion.

Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad i ddeall testunau mwy cymhleth, ac ystyried dibynadwyedd ac effaith yr hyn rwy'n ei ddarllen.

Rwy'n gallu deall testunau'n llawn drwy ddefnyddio sgiliau dehongli, dod i gasgliad a dadansoddi, gan ddeall cyd-destun y testunau sy'n dylanwadu ar y darllenydd.

Rwy'n gallu adnabod geiriau cyfarwydd, e.e. fy enw, a geiriau print yn yr amgylchedd.

Rwy’n gallu dehongli ystyr nad yw wedi ei fynegi'n benodol mewn testun a delweddau, e.e. Beth allai ddigwydd nesaf? Pam wnaeth y cymeriad hynny?

Rwy’n gallu defnyddio sgiliau dehongli a dod i gasgliad er mwyn deall y testun, ac yn gallu ystyried dibynadwyedd yr hyn rwy'n ei ddarllen.

Rwy'n gallu dangos dealltwriaeth lawn o destunau drwy ddefnyddio sgiliau dehongli, dod i gasgliad a dadansoddi.

Rwy'n gallu dadansoddi ac ymateb i destunau ac is-destunau, gan ddeall, dehongli a gwerthuso ystyr yn hyderus.

Rwy'n gallu dehongli syniadau nad ydyn nhw wedi'u mynegi'n benodol, e.e. safbwyntiau neu agweddau awdur.

Deall, ymateb a dadansoddi

Rwy’n dechrau darllen yn ôl yr hyn rwyf wedi ei ysgrifennu.

Rwy’n gallu darllen ar goedd gyda mynegiant, gan roi sylw i atalnodi, gan gynnwys atalnodau llawn, gofynodau, ebychnodau a dyfynodau, gan amrywio goslef, llais a chyflymder.

Rwy'n gallu darllen amrywiaeth eang o destunau ar goedd gyda mynegiant, gan amrywio goslef, llais a chyflymder.

Rwy'n gallu darllen amrywiaeth o destunau heriol a dilys ar goedd gyda mynegiant, gan amrywio goslef, llais a chyflymder er mwyn cyfleu ystyr.

Rwy'n gallu darllen amrywiaeth o destunau heriol a dilys ar goedd gyda mynegiant, gan amrywio goslef, llais a chyflymder er mwyn cyfleu ystyr.

Rwy’n dechrau dod yn ymwybodol o atalnodau llawn wrth ddarllen.

Rwy'n gallu adnabod y pwnc/thema a dangos fy nealltwriaeth o brif syniadau'r testun.

Rwy'n gallu deall sut y gall atalnodi amrywio, gan effeithio ar strwythur brawddegau ac ystyr, e.e. Ces i afal, cracer a chaws i de.

Rwy'n gallu ymchwilio i amrywiaeth eang o ffynonellau cyfeirio a digidol er mwyn datblygu dealltwriaeth lawn o bwnc neu fater.

Rwy'n gallu ymchwilio'n annibynnol i amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn datblygu dealltwriaeth o bwnc neu fater cynyddol gymhleth.

Rwy’n gallu defnyddio cyd-destun a lluniau i’m helpu i ddeall yr hyn rwy'n ei ddarllen, gan ychwanegu manylion at fy esboniadau.

Rwy'n gallu datblygu fy ngeirfa drwy ddarllen fy hun a chael eraill i ddarllen i mi.

Rwy'n gallu adnabod syniadau a gwybodaeth sydd o ddiddordeb i mi er mwyn datblygu fy nealltwriaeth ymhellach.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adeiladu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain yn effeithiol wrth i mi gyfathrebu.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am wahanol strategaethau darllen er mwyn deall synnwyr geiriau anghyfarwydd mewn cyd-destunau a brawddegau newydd mewn testunau cymhleth, a defnyddio'r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu datblygu fy ngeirfa trwy ddarllen, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei weld a'i ddarllen, gan ofyn cwestiynau a mynegi safbwyntiau a hoffterau.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adeiladu fy ngeirfa a strwythurau brawddegau, gan ddefnyddio’r rhain wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adnabod safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan eu defnyddio i ddod i'm casgliadau fy hun.

Rwy’n gallu darllen gydag empathi er mwyn parchu a gwerthuso'n feirniadol safbwyntiau gwahanol bobl, a'u hystyried fel sail wrth lunio fy nghasgliadau ystyriol fy hun.

Rwy’n gallu ymateb i’r hyn rwy’n ei glywed, ei weld a’i ddarllen.

Rwy'n gallu dod o hyd i wybodaeth o wahanol ddeunyddiau rwy'n eu darllen a'i defnyddio, gan gynnwys cip ddarllen (sgimio) er mwyn cael trosolwg o destun a llithr ddarllen (sganio) er mwyn nodi gwybodaeth benodol.

Rwy’n gallu darllen er mwyn adnabod safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol a datblygu empathi.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng ffeithiau/tystiolaeth a rhagfarn/dadleuon.

Rwy'n gallu deall ac ystyried yn fanwl sut y gellir dehongli testunau, gan wahaniaethu rhwng ffeithiau/tystiolaeth a rhagfarn/dadleuon.

Rwy'n gallu cofio manylion stori neu destun drwy ateb cwestiynau penagored neu gyfeirio at bromptiau.

Rwy’n gallu adnabod nodweddion gwahanol fathau o destunau o ran iaith, strwythur a chyflwyniad, a defnyddio iaith briodol i siarad amdanyn nhw, e.e. erthygl newyddion.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng ffeithiau, damcaniaethau a barn.

Rwy'n gallu adnabod gwahanol ddehongliadau o destun a gwybodaeth a gwerthuso eu rhinweddau cymharol.

Rwy'n gallu ystyried yn fanwl wahanol ddehongliadau o faterion a syniadau, gan ddefnyddio'r testun/amrywiaeth o ffynonellau i gefnogi barn.

Rwyf wedi profi amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau darllen a llenyddiaeth, ac rwy'n gallu dilyn testunau sy'n cael eu darllen ar goedd i mi gan ymateb yn briodol.

Rwy'n gallu defnyddio nodweddion testunau i chwilio am wybodaeth, gan gynnwys cynnwys, mynegeion, rhestrau termau, teitlau, ffotograffau, darluniau, diagramau, tablau a siartiau.

Rwy'n gallu dangos fy mod yn deall y prif syniadau a manylion pwysig mewn gwahanol destunau ar yr un pwnc a'u defnyddio.

Rwy'n gallu darllen yn fanwl, gwneud gwaith dilynol a defnyddio deunyddiau ychwanegol mewn testunau i ymestyn fy nealltwriaeth.

Rwy'n gallu darllen yn fanwl, gan ddadansoddi cynnwys, iaith ac effaith testunau er mwyn dyfnhau fy nealltwriaeth.

Rwy'n gallu dewis gwahanol fathau o ddeunyddiau darllen, gan gynnwys llyfrau.

Rwy'n gallu adnabod dibenion a chynulleidfaoedd bwriadedig gwahanol destunau, e.e. cyfarwyddo, esbonio.

Rwy'n gallu darllen yn fanwl, gan adnabod a nodi nodweddion testunau, e.e. cyflwyniad, dilyniant, darluniau, ffurfioldeb, geirfa allweddol.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am sut mae gwahanol destunau wedi'u strwythuro, eu trefnu a'u cysylltu er mwyn cefnogi fy nealltwriaeth o bwnc, e.e. defnyddio hyperddolenni mewn testun a argraffwyd/testun digidol i ymestyn fy ymchwil a'm dealltwriaeth.

Rwy'n gallu defnyddio testunau a argraffwyd a thestunau digidol i chwilio'n ddethol, gan asesu dibynadwyedd, arwyddocâd a chywirdeb yr hyn rwy'n ei weld.

Rwy'n gallu cysylltu gwybodaeth a syniadau o ddeunydd darllen a llenyddiaeth â phrofiadau personol.

Rwy'n gallu adnabod sut mae testunau wedi'u trefnu, e.e. rhestrau, pwyntiau wedi'u rhifo, diagramau â saethau, tablau a phwyntiau bwled.

Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am adeiladwaith iaith a threfn testunau i gefnogi fy nealltwriaeth.

Rwy'n gallu gwerthuso defnyddioldeb a dibynadwyedd testunau.

Rwy'n gallu gwerthuso diben, effaith a dibynadwyedd testunau yn hyderus.

Rwy’n gallu siarad am y llenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen, a mynegi barn syml ac ymateb i'r cynnwys.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn rwy'n ei ddarllen a'r hyn rwy'n ei wybod ac yn ei gredu eisoes am y pwnc.

Rwy'n gallu defnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am wahanol fathau o destunau i ystyried a yw testun yn effeithiol o ran cyfleu gwybodaeth, syniadau a safbwyntiau.

Rwy'n gallu crynhoi, cyfuno a dadansoddi gwybodaeth er mwyn magu dealltwriaeth fanwl, e.e. o achosion, canlyniadau, patrymau, gan ddefnyddio gwahanol ffynonellau.

Rwy'n gallu cyfuno a dadansoddi gwybodaeth er mwyn magu dealltwriaeth eang a chytbwys o ffynonellau a allai gynnwys safbwyntiau croes.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o ddeunydd darllen a llenyddiaeth, e.e. adnabod pethau sy'n debyg ac sy'n wahanol.

Rwy'n gallu defnyddio ffynonellau cyfeirio/digidol i ddewis, crynhoi a chyfuno gwybodaeth, gan gyfeirio atyn nhw fel y bo'n briodol.

Rwy'n gallu cymharu safbwynt gwahanol awduron ar yr un pwnc, e.e. mae llygod mawr yn hynod ddiddorol neu'n bla.

Rwy'n gallu cymharu a gwrthgyferbynnu themâu a syniadau mewn amrywiaeth o destunau yn hyderus, gan gynnwys testunau digidol a chlyweledol, gan ystyried sut maen nhw'n amrywio o ran diben ac effaith.

Rwy'n gallu deall bod testunau'n newid pan fyddan nhw wedi'u haddasu ar gyfer gwahanol gyfryngau a chynulleidfaoedd, e.e. testun ysgrifenedig a fersiwn ffilm.

Rwy'n gallu coladu a gwneud cysylltiadau, e.e blaenoriaethu, categoreiddio, rhwng gwybodaeth a syniadau o wahanol ffynonellau gan gynnwys testunau digidol a chlyweledol.

Rwy'n gallu cymharu a gwrthgyferbynnu themâu a materion mewn amrywiaeth o destunau gan gynnwys testunau digidol a chlyweledol.

Rwy’n gallu defnyddio fy nychymyg i ymateb i lenyddiaeth a chreu fy ngwaith fy hun.

Siarad
Siarad: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Eglurder a geirfa

Rwy’n gallu cynhyrchu llawer o seiniau llafar yn gywir.

Rwy’n gallu siarad yn glir, gan amrywio mynegiant ac ystumiau er mwyn cyfleu fy syniadau a helpu gwrandawyr.

Rwy’n gallu siarad yn glir, gan adnabod yr iaith briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion, a chan amrywio fy mynegiant, geirfa, tôn ac ystumiau i ennyn diddordeb y gynulleidfa.

Rwy’n gallu siarad yn glir, gan ddewis ac addasu fy iaith yn briodol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a dibenion, a chan gyfleu ystyr yn effeithiol i’r gynulleidfa.

Rwy'n gallu siarad yn rhugl ac yn hyderus, gan ddefnyddio ystod o dechnegau, edrychiadau ac ystumiau.

Rwy’n gallu gwahaniaethu seiniau, chwarae â seiniau a thrin seiniau o fewn fy amgylchedd yn ogystal ag o fewn geiriau.

Rwy’n gallu datblygu ac addasu fy ngeirfa drwy wrando a darllen, a defnyddio’r geiriau newydd hyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Rwy’n gallu myfyrio ar safon fy mynegiant a defnyddio ystod o strategaethau i sicrhau mwy o eglurder yn fy nghyfathrebu llafar, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd ffurfiol.

Rwy’n gallu argyhoeddi wrth gyfleu ystyr mewn ystod o gyd-destunau gan ennyn diddordeb llawn y gynulleidfa.

Rwy'n gallu cyflwyno syniadau a materion er mwyn bodloni gofynion gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy’n gallu defnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd ac arbrofi â geirfa rwyf newydd ei dysgu.

Rwy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol amrywiol ac yn gynyddol fanwl gywir.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau priodol am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac yn eglur.

Rwy’n gallu myfyrio ar fy nefnydd o strategaethau i wella ansawdd, cywirdeb ac effaith fy nghyfathrebu llafar, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd ffurfiol.

Rwy’n gallu myfyrio’n feirniadol ar fy nefnydd o iaith ac yn gallu ystyried yn wrthrychol effaith fy nghyfathrebu llafar.

Rwy’n gallu cyfathrebu ystyr gan ddefnyddio iaith lafar estynedig a/neu ystum.

Rwy’n gallu amrywio’r math o frawddegau rwy’n eu defnyddio yn fy iaith lafar.

Rwy'n gallu mynegi materion a syniadau'n glir gan ddefnyddio geirfa sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth ac enghreifftiau.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn gywir ac yn eglur.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o eirfa sy'n benodol i ddisgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol wrth i mi gyfathrebu.

Rwy'n gallu adnabod y seiniau sydd yn aml yn newid ar ddechrau geiriau a chymhwyso'r newidiadau hynny mewn rhai cyd-destunau lle y bo angen treiglo, e.e. yn gyflym, digon o le.

Rwy'n gallu adnabod geiriau sydd wedi eu treiglo, ac yn gallu cymhwyso'r newidiadau hynny mewn llawer o gyd-destunau gorfodol, gan gynnwys:

  • treiglad meddal ar ôl 'ei' gwrywaidd, e.e. ei goes ef, ac ar ôl nifer o arddodiaid
  • treiglad meddal (heblaw am ll a rh) ar ôl 'yn' traethiadol, e.e. yn gyflym
  • treiglad trwynol ar ôl 'fy', e.e. fy nghoes i, ac ar ôl yr arddodiad 'yn', e.e. yng Nghaerffili
  • treiglad llaes ar ôl 'ei' benywaidd, e.e. ei choes hi, ac ar gyfer enwau gyda chyfeiryddion dynol.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio wrth i mi gyfathrebu.

Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig soffistigedig a chywair priodol mewn ystod o gyd-destunau.

Rwy'n gallu adnabod y defnydd o dreigladau, a hepgoriadau a/neu'r defnydd o dreiglad amhriodol pan ddisgwylir math arall o dreiglad.

Rwy'n gallu adnabod yr amrywiol ddefnyddiau o dreigladau a chymhwyso pob un o'r tair proses (treiglad meddal, treiglad trwynol a threiglad llaes) mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau lle y dylid treiglo.

Rwy'n dechrau adnabod cenedl enwau ac effaith hynny ar dreigladau, e.e. ysgol gynradd (ysgolion cynradd), cadair goch (cadeiriau coch).

Rwy'n gallu dangos datblygiad parhaus o ran fy ngallu i nodi cenedl enwau drwy dreiglo lle y bo’n briodol, e.e. yr enw ei hun (y gath), ansoddeiriau cysylltiedig (y gath fach, lwyd), gan sicrhau cysondeb mewn patrymau cyfeirio pellach, e.e. Cafodd y gath fach, lwyd, ei chipio o'i chynefin. Druan ohoni.

Diben

Rwy’n gallu rhannu syniadau a theimladau a mynegi’r hyn rwy'n ei hoffi a'r hyn nad wyf yn ei hoffi.

Rwy’n gallu esbonio gwybodaeth a rhannu syniadau, barn a theimladau gan ddefnyddio geirfa berthnasol.

Rwy'n gallu rhannu, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn gan ddefnyddio ystod o dechnegau i ddangos effaith.

Rwy’n gallu rhannu, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn, gan ddangos empathi a pharch.

Rwy'n gallu rhannu, siarad ac ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn mewn cyd-destunau cynyddol heriol a dadleuol.

Rwy’n gallu deall a defnyddio cysyniadau sylfaenol mewn iaith, e.e. i fyny/i lawr, mwy/llai, hapus/trist.

Rwy'n gallu defnyddio iaith lafar/cyfathrebu at ddibenion gwahanol, e.e. esbonio, darbwyllo, cwestiynu a negodi.

Rwy'n gallu trefnu sgwrs fel y gall gwahanol gynulleidfaoedd mewn gwahanol gyd-destunau ddilyn yr hyn sy'n cael ei ddweud, gan gynnwys defnyddio iaith ffurfiol.

Rwy'n gallu trefnu'r hyn sy'n cael ei ddweud yn effeithiol er mwyn ymateb i adwaith gwrandawyr drwy addasu'r hyn rwy'n ei ddweud a'r ffordd rwy'n ei ddweud.

Rwy’n gallu trefnu'r hyn sy'n cael ei ddweud yn effeithiol er mwyn gwerthuso'n feirniadol ac ymateb i’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld.

Rwy'n gallu mynegi diddordeb a mwynhad.

Rwy'n gallu trefnu'r hyn rwy'n ei ddweud fel y gall gwrandawyr ddeall, e.e. pwysleisio pwyntiau allweddol, dilyniannu esboniad.

Rwy'n gallu ailadrodd digwyddiadau neu brofiadau mewn iaith syml.

Rwy’n gallu disgrifio gwrthrychau a digwyddiadau, gan adeiladu ac ymestyn fy ngeirfa.

Rwy’n dechrau defnyddio iaith briodol i siarad am ddigwyddiadau yn y gorffennol a’r dyfodol.

Siarad cydweithredol

Rwy’n dechrau cymryd fy nhro mewn sgyrsiau, gan ddilyn y pwnc dan sylw.

Rwy'n gallu siarad yn bwrpasol i gyfrannu at drafodaeth grŵp, gan rannu syniadau a gwybodaeth.

Rwy'n gallu cyfrannu at drafodaeth grŵp mewn rolau gwahanol, gan gymryd cyfrifoldeb am gwblhau'r dasg yn dda.

Rwy'n gallu ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau i strwythuro a datblygu siarad mewn grŵp, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o opsiynau a strategaethau i alluogi’r grŵp i wneud cynnydd a dod i gonsensws.

Rwy’n dechrau siarad â’m cyfoedion yn iaith y lleoliad/ysgol.

Rwy’n gallu ymgymryd ag ystod o rolau a rheoli fy nghyfraniadau'n briodol.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwy'n gallu adnabod ystod o opsiynau ar gyfer gweithredu a dod i gytundeb er mwyn cyflawni nodau'r grŵp.

Rwy'n gallu ymateb yn hyderus i'r ffordd y mae gwrandawyr yn ymateb, gan addasu fy iaith mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwy'n gallu ystyried materion heriol neu ddadleuol drwy amrywiaeth o gyd-destunau dilys, gan gynnwys cynnal rôl.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwyf wedi cael profiad o siarad â gwahanol bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys.

Rwy’n gallu newid y modd rwy’n cyfathrebu, yn ôl lle’r wyf i a chyda phwy, gan gynnwys sefyllfaoedd ffurfiol.

Rwy'n gallu defnyddio sgiliau siarad mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys er mwyn ystyried materion heriol neu ddadleuol.

Rwy'n gallu ystyried materion heriol neu ddadleuol yn hyderus ac yn gyson drwy gynnal rolau mewn sefyllfaoedd, cyd-destunau a dibenion ffurfiol.

Rwy'n gallu cyflwyno syniadau a materion er mwyn bodloni gofynion gwahanol gynulleidfaoedd.

Gofyn cwestiynau

Rwy’n dechrau gofyn ac ateb cwestiynau er mwyn i mi ddeall yn well.

Rwy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau a chyfnewid syniadau a gwybodaeth am bynciau (cyfarwydd neu newydd).

Rwy'n gallu gofyn ac ateb cwestiynau, gan adeiladu ar syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp a'u datblygu.

Rwy'n gallu cynnal safbwynt argyhoeddiadol, gan ragweld safbwyntiau eraill ac ymateb iddyn nhw.

Rwy'n gallu siarad o safbwyntiau argyhoeddiadol amrywiol er mwyn bodloni gofynion gwahanol sefyllfaoedd, cyd-destunau a dibenion.

Rwy'n gallu mynegi barn, gan roi rhesymau ac atebion priodol i gwestiynau.

Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan geisio eglurder, crynhoi ac esbonio’r hyn rwyf wedi ei glywed, ei ddarllen neu ei weld.

Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill mewn ffordd hyderus a sensitif, gan grynhoi a gwerthuso'r hyn rwyf wedi ei glywed, ei ddarllen neu ei weld.

Rwy'n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau, e.e. cwestiynau rhethregol, ystumiau.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus i wella fy sgiliau cyfathrebu.

Ysgrifennu
Ysgrifennu: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Geirfa, sillafu, gramadeg

Rwy’n gallu cyfathrebu gan wneud marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Rwy’n gallu ysgrifennu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol ddychmygus, amrywiol a manwl gywir.

Rwy'n gallu defnyddio geirfa amrywiol, briodol a manwl gywir, gan gynnwys geiriau sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth at ddibenion gwahanol.

Rwyf wedi cael profiad o ystod o eirfa sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol, ac yn gallu ei defnyddio wrth i mi gyfathrebu.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o eirfa sy'n benodol i ddisgyblaeth a geirfa academaidd gyffredinol yn fanwl gywir.

Rwy'n dechrau rhoi symbolau, arwyddion neu eiriau yn eu dilyniant priodol.

Rwy'n gallu defnyddio ffurfiau iaith safonol, gan gynnwys ffurfiau cryno, e.e. rwy’n gweld/gwelodd e, a chytundeb rhwng y goddrych a'r ferf, e.e. roeddwn i, roedd hi.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau priodol am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac yn eglur ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol ac at ddibenion gwahanol.

Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a ffigurol, a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn gywir ac yn eglur.

Rwy’n gallu defnyddio iaith idiomatig soffistigedig a chywair priodol mewn ystod o gyd-destunau.

Rwy'n gallu adnabod natur trefn yr wyddor ysgrifennu a deall bod i symbolau ysgrifenedig ystyr.

Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am seiniau a phatrymau llythrennau'n gywir wrth i mi sillafu, gan gynnwys:

  • cytsain–llafariad–cytsain
  • llythrennau dwbl cyffredin, e.e. ch, ll
  • gwreiddiau syml, e.e. rhagddodiaid -an
  • ôl-ddodiaid, e.e. -wyr
  • terfyniadau lluosog yn gywir yn eu cyd-destun, e.e. -au, -iau, -od,
  • amser gorffennol berfau yn gyson, e.e. gwelais i, cysgais i.

Rwy'n gallu defnyddio iaith briodol ar gyfer ysgrifennu, gan gynnwys ffurfiau safonol, e.e. enwau, rhagenwau, ansoddeiriau, adferfau, arddodiaid, cysyllteiriau ac amseroedd y ferf.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau i sillafu geirfa gyfarwydd ac anghyfarwydd a geiriau sy'n benodol i faes dysgu a phrofiad/disgyblaeth yn gywir.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau i sillafu geiriau sy'n benodol i ddisgyblaeth a geiriau academaidd cyffredinol mewn cyd-destunau priodol.

Rwy'n gallu ysgrifennu o'r chwith i'r dde.

Rwy'n gallu rhoi ymgais ar sillafu geiriau anoddach mewn ffordd resymol gan ddefnyddio ystod o strategaethau, gan gynnwys:

  • teuluoedd geiriau
  • gwreiddiau
  • morffoleg
  • gwybod am graffigau
  • gwybod am ffonemau, e.e. segmentu gair yn ffonemau unigol.

Rwy'n gallu defnyddio ffurf safonol amrywiaeth o eiriau, e.e. ffurfiau'r presennol, ffurfiau'r gorffennol a ffurfiau negyddol.

Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy ac yn rhugl.

Rwy'n gallu deall a defnyddio confensiynau ffurfiol iaith at ddibenion amrywiol, gan wneud defnydd effeithiol o adnoddau cyfeirio a chymhorthion cywirdeb.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng llythrennau.

Rwy’n gallu sillafu geiriau aml eu defnydd afreolaidd yn gywir.

Rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am seiniau a phatrymau llythrennau'n gywir wrth i mi sillafu, gan gynnwys:

  • gwreiddiau, e.e. uwch, rhag
  • ôl-ddodiaid, e.e. -ydd, -ant
  • terfyniadau lluosog yn gywir yn eu cyd-destun, e.e. -au, -iau, -od.

Rwy'n gallu cyflwyno fy ngwaith yn briodol mewn cyd-destunau digidol gan ddefnyddio confensiynau digidol priodol, e.e. cryno-luniau, dewis iaith.

Rwy'n gallu adnabod yr amrywiol ddefnyddiau o dreigladau a chymhwyso pob un o'r tair proses (treiglad meddal, treiglad trwynol a threiglad llaes) mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau treigladwy.

Rwy'n gallu gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach.

Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau i sillafu geiriau amlsillafog, cymhleth ac afreolaidd yng nghyd-destun pob maes dysgu a phrofiad.

Rwy'n gallu adnabod y defnydd o dreigladau, hepgoriadau mewn cyd-destunau gorfodol a/neu'r defnydd o dreiglad amhriodol pan ddisgwylir math arall o dreiglad.

Rwy'n gallu dangos datblygiad parhaus o ran fy ngallu i nodi cenedl enwau drwy dreiglo lle y bo’n briodol, e.e. yr enw ei hun (y gath), ansoddeiriau cysylltiedig (y gath fach, lwyd), gan sicrhau cysondeb mewn patrymau cyfierio pellach, e.e. Cafodd y gath fach, lwyd, ei chipio o'i chynefin. Druan ohoni.

 

Rwy'n gallu ffurfio llythrennau.

Rwy'n gallu adnabod y llythrennau sydd yn aml yn newid ar ddechrau geiriau a chymhwyso'r newidiadau hynny mewn rhai cyd-destunau lle y bo angen treiglo.

Rwy’n gallu ysgrifennu’n ddarllenadwy ac yn rhugl.

Rwy'n gallu adnabod cenedl enwau ac effaith hynny ar dreigladau, e.e. ysgol gynradd (ysgolion cynradd), cadair goch (cadeiriau coch).

Rwy'n gallu ysgrifennu brawddegau sy'n gywir yn ramadegol gan redeg rhagddodiaid, a sicrhau amser y ferf, a chyfatebiaeth rhwng person a chytundeb o ran cenedl.

Rwy'n gallu ysgrifennu geiriau ac ymadroddion gan ddefnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am lythrennau a'r seiniau maen nhw'n eu cynrychioli.

Rwy'n gallu ffurfio fersiynau lluosog o enwau cyfarwydd diriaethol.

Rwy'n gallu cyflwyno fy ngwaith yn briodol mewn cyd-destunau digidol.

Rwy'n gallu llunio ffurfiau lluosog gyda'r newid llafariad/deusain priodol, e.e. car>ceir.

Rwy'n gallu segmentu geiriau yn sillafau ac yn seiniau er mwyn fy helpu i sillafu.

Rwy'n gallu sillafu rhai geiriau gan ddefnyddio'r llafariad briodol y/u/i, e.e. tŷ, llun, hir, a deuseiniaid, e.e. coed.

Rwy'n gallu treiglo'n gywir yn ôl y gofyn, gan gynnwys:

  • treiglad meddal ar ôl 'ei' gwrywaidd, e.e. ei goes ef, ac ar ôl 'yn' traethiadol, e.e. yn gyflym
  • treiglad trwynol ar ôl 'fy', e.e. fy nghoes i, ac ar ôl yr arddodiad 'yn', e.e. yng Nghaerffili
  • treiglad llaes ar ôl 'ei' benywaidd, e.e. ei choes hi, ac ar gyfer cenedl enwau.

Rwy'n gallu ysgrifennu brawddegau sy'n gywir yn ramadegol gan roi sylw i rediad ac amser y ferf, a chyfatebiaeth rhwng person a chytundeb o ran cenedl.

Rwy'n dechrau ysgrifennu gan ddefnyddio geiriau ac ymadroddion cyfarwydd.

Rwy'n gallu ffurfio lluosog, e.e. drwy ychwanegu terfyniad (merch>merched), newid bôn (bachgen>bechgyn), cyfuniad o'r ddau (braich>breichiau) a thynnu terfyniad (coeden>coed).

Rwy'n dechrau ffurfio llythrennau'n gywir gan ddal yn briodol yn yr offer ysgrifennu.

Rwy'n gallu newid llafariaid a deuseiniaid yn briodol ac addasu geiriau o ran ystyr, gan newid rhwng enwau unigol a lluosog neu nodi cenedl enwau benywaidd wrth ychwanegu ansoddair benywaidd, e.e. taflen werdd, cath wen.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth bod rhai llythrennau yn newid ar ddechrau geiriau, e.e. dau gi, y gath.

Cysyllteiriau a chystrawen

Rwy’n gallu defnyddio brawddegau syml ac aml-gymalog gan wneud dewisiadau er mwyn cyrraedd y gynulleidfa a chyflawni’r diben a fwriadwyd, gan gynnwys:

  • cysyllteiriau i ymhelaethu ar bwynt
  • cysyllteiriau i ysgrifennu brawddegau cyfansawdd
  • cysyllteiriau ar gyfer achos a chanlyniad, e.e. oherwydd, ar ôl
  • dechrau brawddegau mewn amrywiaeth o ffyrdd
  • ansoddeiriau ac adferfau.

Rwy'n gallu defnyddio strwythurau brawddeg syml, cyfansawdd a chymhleth er pwyslais ac effaith.

Rwy'n gallu dewis a defnyddio amrywiaeth o wahanol strwythurau brawddeg (brawddegau syml, cyfansawdd a chymhleth) gyda chywirdeb gramadegol wrth i mi ysgrifennu.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth estynedig o ddarllenwyr gwahanol drwy ddewis o blith amrywiaeth o arddulliau a strwythurau, ac addasu'r ffordd rwy'n defnyddio iaith yn hyderus.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth gynyddol o gysyllteiriau i drefnu fy syniadau mewn brawddegau, paragraffau a thestunau cyfan.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth o gysyllteiriau'n benodol wrth drefnu fy syniadau yn destunau cyfan at wahanol ddibenion.

Rwy'n gallu amrywio strwythurau brawddegau i ennyn a chadw diddordeb y darllenydd ac ysgrifennu gyda chywirdeb gramadegol.

Atalnodi

Rwy’n ymwybodol o sut mae geiriau’n cael eu gwahanu gan fylchau.

Rwy'n gallu defnyddio atalnodi cyfarwydd, gan gynnwys prif lythrennau, atalnodau llawn, gofynodau, ebychnodau, comas ar gyfer rhestrau, a chollnodau i ddangos hepgor llythyren.

Rwy'n gallu defnyddio ystod o atalnodau'n gywir (gan gynnwys collnod) i egluro ac ehangu ar ystyr.

Rwy'n defnyddio'r ystod lawn o atalnodau'n gywir (gan gynnwys colonau, hanner colonau a chromfachau) i egluro, trefnu ac ehangu ar ystyr.

Rwy'n gallu defnyddio'r ystod lawn o atalnodau er mwyn amrywio cyflymder, egluro ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol.

Rwy’n dechrau dod yn ymwybodol o sut mae prif lythrennau ac atalnodau llawn yn pennu ffiniau brawddegau.

Rwy'n gallu dechrau defnyddio comas i nodi cymalau ac ymadroddion, e.e. ar ôl ymadrodd adferol blaen 'Nes ymlaen y bore hwnnw, aethon ni i’r castell'.

Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destunau

Rwy’n dechrau deall y gellir ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy'n gallu ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer cynulleidfaoedd dilys, go iawn neu ddychmygol.

Rwy'n gallu addasu arddull a strwythur fy ysgrifennu i fod yn addas i'r gynulleidfa, y diben a'r cyd-destun, e.e. cydbwysedd addas rhwng ffeithiau a safbwyntiau, casgliad penodol.

Rwy'n gallu addasu fy arddull ysgrifennu, gan ddewis a defnyddio'r strwythurau gorau ar gyfer gwahanol gyd-destunau a dibenion, e.e. i ddisgrifio, esbonio, darbwyllo, trafod yn llwyddiannus.

Rwy'n gallu ysgrifennu darnau estynedig sy'n cynnwys tystiolaeth a gwybodaeth fanwl at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd o fewn gwahanol ddisgyblaethau a rhyngddyn nhw.

Rwy’n gallu ymateb yn greadigol i’r ystod o lenyddiaeth rwy’n ei chlywed, ei gweld neu ei darllen.

Rwy'n gallu defnyddio sgiliau siarad i gynllunio gwaith ysgrifennu a chofnodi fy syniadau i'w defnyddio wrth ysgrifennu.

Rwy'n gallu ysgrifennu disgrifiad cynhwysfawr o bwnc, thema neu safbwynt.

Rwy'n gallu defnyddio crynodebau, trafod materion, rhoi esboniadau manwl a defnyddio rhesymeg wrth ymdrin â phwnc.

Rwy'n gallu crynhoi gyda hyder, gan addasu arddull a ffurf yn ôl y darllenydd neu'r gynulleidfa fwriadedig a diben y gwaith ysgrifennu.

Rwy’n dechrau cyfathrebu gan ddefnyddio testun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo.

Rwy'n gallu trefnu fy ngwaith ysgrifennu mewn dilyniant rhesymegol, e.e. ysgrifennu drwy ddefnyddio cyflwyniad i'r pwnc a chasgliad, cyflwyno gwybodaeth fel proses, defnyddio geiriau trefnu.

Rwy'n gallu defnyddio ac addasu gwahanol strwythurau yn fy ngwaith ysgrifennu, e.e. adroddiad ar ddigwyddiad, ymchwiliad neu arbrawf.

Rwy'n gallu ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn gan ddefnyddio ystod o dechnegau, e.e. iaith emosiynol, gor-ddweud, dewis rhagenwau (chi, ni), i ddangos effaith.

Rwy'n gallu ysgrifennu'n aeddfed am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn mewn cyd-destunau cynyddol heriol a dadleuol.

Rwy’n gallu cyfrannu at ysgrifennu ar y cyd ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion.

Rwy'n gallu dechrau strwythuro fy ngwaith ysgrifennu drwy ddefnyddio paragraffau.

Rwy’n gallu ysgrifennu am fy meddyliau, fy nheimladau a fy marn, gan ddangos empathi a pharch.

Rwy’n gallu dewis a defnyddio strategaethau priodol er mwyn cynllunio a datblygu fy ngwaith ysgrifennu at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Rwy'n gallu cyfleu safbwynt gwrthrychol a diduedd ar bynciau cymhleth, gan ddefnyddio ystod o ddyfeisiau ieithyddol.

Rwy'n gallu ystyried ffyrdd gwahanol o gynllunio, drafftio a chyflwyno fy ngwaith yn briodol.

Rwy'n gallu trefnu a llunio fy ngwaith ysgrifennu'n effeithiol, gan gysylltu a datblygu fy syniadau ar gyfer amrywiaeth o wahanol gyd-destunau.

Rwy'n gallu dewis a defnyddio strategaethau priodol i gynllunio a datblygu fy ngwaith ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth heriol o wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd.

Rwy'n gallu ysgrifennu cyflwyniad effeithiol sy'n nodi'r cyd-destun a'r diben, gan gynnwys cydbwysedd addas rhwng ffeithiau a safbwyntiau, a chasgliad penodol.

Rwy'n gallu defnyddio paragraffau ac adrannau er mwyn rhoi eglurder i ddarnau ysgrifennu mwy estynedig.

Rwy'n gallu trefnu gwaith ysgrifennu ar ffurf briodol, gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei nodi o fewn a rhwng paragraffau neu adrannau, a chan ddatblygu a chynnal syniadau'n gydlynus.

Rwy'n gallu defnyddio paragraffau a gwneud cysylltiadau rhyngddyn nhw.

Prawfddarllen, golygu a gwella

Rwy’n gallu edrych dros fy ngwaith ac rwy’n dechrau defnyddio ystod o strategaethau ac adnoddau cyfarwydd i wella fy ngwaith ysgrifennu.

Rwy’n gallu myfyrio ar safon fy mynegiant, ei olygu a'i ailddrafftio i wella'r ansawdd, a defnyddio ystod o strategaethau i sicrhau mwy o eglurder.

Rwy'n gallu gwella gwaith ysgrifennu drwy adolygu annibynnol ac ailddrafftio.

Rwy'n gallu gwella cynnwys, strwythur a chywirdeb fy ngwaith ysgrifennu drwy fyfyrio'n feirniadol, adolygu a golygu, gan ymateb yn adeiladol i adborth.

Rwy’n gallu esbonio ble a pham rwyf wedi gwneud unrhyw newidiadau neu gywiriadau.

Rhifedd

Datblygu hyfedredd mathemategol
Datblygu hyfedredd mathemategol: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Dealltwriaeth gysyniadol

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau fel y gellir trosglwyddo cysyniadau mathemategol sylfaenol yn ystod gweithgareddau chwarae ac ystafell ddosbarth.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau fel y gellir trosglwyddo cysyniadau mathemategol yn ystod gweithgareddau chwarae ac ystafell ddosbarth.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau fel y gellir adeiladu ar gysyniadau mathemategol a'u dyfnhau.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau fel y gellir adeiladu ar gysyniadau mathemategol a'u dyfnhau.

Rwy'n gallu gwneud cysylltiadau fel y gellir adeiladu ar gysyniadau mathemategol a'u dyfnhau.

Rwy'n gallu deall a defnyddio cysyniadau mathemategol sylfaenol mewn ffyrdd gwahanol.

Rwy'n gallu cynrychioli cysyniad mewn ffyrdd gwahanol, gan lifo rhwng cynrychioliadau gwahanol gan gynnwys rhai llafar, diriaethol, gweledol, digidol a haniaethol.

Rwy'n gallu defnyddio fy nealltwriaeth o strwythurau sylfaenol mathemateg a'u cymhwyso mewn cyd-destunau gwahanol.

Rwy'n gallu defnyddio fy nealltwriaeth o strwythurau sylfaenol mathemateg a'u cymhwyso mewn cyd-destunau gwahanol.

Rwy'n gallu defnyddio fy nealltwriaeth o strwythurau sylfaenol mathemateg a'u cymhwyso mewn cyd-destunau gwahanol.

Rwy'n gallu archwilio atebion o fewn cyd-destun y broblem ac rwy'n dechrau ystyried a yw atebion yn synhwyrol.

Rwy'n gallu dehongli atebion o fewn cyd-destun y broblem ac ystyried a yw atebion yn synhwyrol.

Rwy'n gallu esbonio a mynegi cysyniadau, a dod o hyd i enghreifftiau (neu achosion nad ydyn nhw'n enghreifftiau).

Rwy'n gallu esbonio a mynegi cysyniadau, a dod o hyd i enghreifftiau (neu achosion nad ydyn nhw'n enghreifftiau).

Rwy'n gallu esbonio a mynegi cysyniadau, a dod o hyd i enghreifftiau (neu achosion nad ydyn nhw'n enghreifftiau).

Rwy'n gallu cynrychioli cysyniad mewn ffyrdd gwahanol, gan lifo rhwng cynrychioliadau gwahanol gan gynnwys rhai llafar, diriaethol, gweledol, digidol a haniaethol.

Rwy'n gallu cynrychioli cysyniad mewn ffyrdd gwahanol, gan lifo rhwng cynrychioliadau gwahanol gan gynnwys rhai llafar, diriaethol, gweledol, digidol a haniaethol.

Rwy'n gallu cynrychioli cysyniad mewn ffyrdd gwahanol, gan lifo rhwng cynrychioliadau gwahanol gan gynnwys rhai llafar, diriaethol, gweledol, digidol a haniaethol.

Rwy'n gallu dehongli atebion o fewn cyd-destun y broblem ac ystyried a yw atebion, gan gynnwys dangosyddion cyfrifiannell, analog a digidol, yn synhwyrol.

Rwy'n gallu dehongli atebion o fewn cyd-destun y broblem ac ystyried a yw atebion, gan gynnwys dangosyddion cyfrifiannell, analog a digidol, yn synhwyrol.

Rwy'n gallu dehongli atebion o fewn cyd-destun y broblem ac ystyried a yw atebion, gan gynnwys dangosyddion cyfrifiannell, analog a digidol, yn synhwyrol.

Rhesymu rhesymegol

Rwy'n gallu defnyddio iaith bob dydd ac iaith fathemategol i siarad am fy syniadau a'm dewisiadau fy hun.

Rwy'n gallu ddefnyddio iaith bob dydd ac iaith fathemategol i siarad am ac esbonio fy syniadau a'm dewisiadau fy hun.

Rwy'n gallu llunio a datblygu dadl fathemategol.

Rwy'n gallu llunio a datblygu dadl fathemategol.

Rwy'n gallu llunio a datblygu dadl fathemategol.

Rwy'n gallu dilysu canlyniadau a datrysiadau.

Rwy'n gallu cyfiawnhau fy ngweithdrefnau a'm rhagfynegiadau.

Rwy'n gallu cyfiawnhau fy ngweithdrefnau, fy rhagfynegiadau a'm dyfaliadau.

Rwy'n gallu cyfiawnhau fy ngweithdrefnau, fy rhagfynegiadau a'm dyfaliadau.

Rwy'n gallu dilysu canlyniadau a datrysiadau.

Rwy'n gallu dilysu a phrofi canlyniadau a datrysiadau.

Rwy'n gallu dilysu a phrofi canlyniadau a datrysiadau.

Rwy'n gallu esbonio canlyniadau a gweithdrefnau yn fanwl gan ddefnyddio iaith fathemategol briodol.

Rwy'n gallu esbonio canlyniadau a gweithdrefnau yn fanwl gan ddefnyddio iaith fathemategol briodol.

Rwy'n gallu esbonio canlyniadau a gweithdrefnau yn fanwl gan ddefnyddio iaith fathemategol briodol.

Rhuglder

Rwy'n dechrau cymhwyso ffeithiau a thechnegau perthnasol.

Rwy'n gallu nodi ffeithiau a thechnegau perthnasol er mwyn cymhwyso dull effeithlon.

Rwy'n gallu defnyddio ffeithiau a thechnegau cadarn, cofiadwy a defnyddiadwy er mwyn cymhwyso'r dulliau mwyaf effeithlon.

Rwy'n gallu defnyddio ffeithiau a thechnegau cadarn, cofiadwy a defnyddiadwy er mwyn cymhwyso'r dulliau mwyaf effeithlon.

Rwy'n gallu defnyddio ffeithiau a thechnegau cadarn, cofiadwy a defnyddiadwy er mwyn cymhwyso'r dulliau mwyaf effeithlon.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau gwirio i benderfynu a yw atebion yn rhesymol.

Rwy'n gallu dewis a chymhwyso strategaethau gwirio priodol.

Rwy'n gallu dewis a chymhwyso strategaethau gwirio priodol.

Rwy'n gallu dewis a chymhwyso strategaethau gwirio priodol.

Rwy'n gallu defnyddio cyfrifiannell yn effeithiol ac yn effeithlon i gwblhau cyfrifiadau.

Rwy'n gallu defnyddio cyfrifiannell wyddonol yn effeithiol ac yn effeithlon i gwblhau cyfrifiadau gan ddefnyddio'r amrywiaeth o fysellau swyddogaeth sydd ar gael.

Rwy'n gallu defnyddio cyfrifiannell wyddonol yn effeithiol ac yn effeithlon i gwblhau cyfrifiadau gan ddefnyddio'r amrywiaeth o fysellau swyddogaeth sydd ar gael.

Cymhwysedd strategol

Rwy'n gallu dewis y cyfarpar a'r adnoddau priodol i'm cynorthwyo.

Rwy'n gallu nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol, a dewis cyfarpar ac adnoddau priodol.

Rwy'n gallu adnabod, modelu a chymhwyso'r strwythurau a syniadau mathemategol wrth wraidd problemau, er mwyn eu fformiwleiddio a'u datrys.

Rwy'n gallu adnabod, modelu a chymhwyso'r strwythurau a syniadau mathemategol wrth wraidd problemau, er mwyn eu fformiwleiddio a'u datrys.

Rwy'n gallu adnabod, modelu a chymhwyso'r strwythurau a syniadau mathemategol wrth wraidd problemau, er mwyn eu fformiwleiddio a'u datrys.

Rwy'n gallu awgrymu beth o bosib y byddaf angen ei wneud er mwyn cwblhau'r dasg neu ddod o hyd i ddatrysiad.

Rwy'n gallu nodi camau er mwyn cwblhau'r dasg neu ddod o hyd i ddatrysiad.

Rwy'n gallu nodi, mesur neu gasglu'r wybodaeth sy'n ofynnol er mwyn cwblhau'r dasg.

Rwy'n gallu nodi, mesur neu gasglu'r wybodaeth sy'n ofynnol er mwyn cwblhau'r dasg.

Rwy'n gallu nodi, mesur neu gasglu'r wybodaeth sy'n ofynnol er mwyn cwblhau'r dasg.

Rwy'n gallu archwilio mathemateg a thechnegau priodol i'w defnyddio.

Rwy'n gallu dewis mathemateg a thechnegau priodol i'w defnyddio.

Rwy'n gallu nodi pa wybodaeth bellach allai fod yn ofynnol a dewis pa wybodaeth sydd fwyaf priodol.

Rwy'n gallu nodi pa wybodaeth bellach allai fod yn ofynnol a dewis pa wybodaeth sydd fwyaf priodol.

Rwy'n gallu nodi pa wybodaeth bellach allai fod yn ofynnol a dewis pa wybodaeth sydd fwyaf priodol.

Rwy'n gallu dewis strategaeth briodol ymenyddol neu un ysgrifenedig ac rwy'n gwybod pryd mae'n briodol defnyddio cyfrifiannell.

Rwy'n gallu dewis, treialu a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau posibl a rhannu problemau yn gyfres o dasgau.

Rwy'n gallu dewis, treialu a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau posibl a rhannu problemau cymhleth yn gyfres o dasgau.

Rwy'n gallu dewis, treialu a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau posibl a rhannu problemau cymhleth yn gyfres o dasgau.

Rwy'n gallu blaenoriaethu a threfnu'r camau perthnasol sydd eu hangen i gwblhau'r dasg neu ddod o hyd i ddatrysiad.

Rwy'n gallu blaenoriaethu a threfnu'r camau perthnasol sydd eu hangen i gwblhau'r dasg neu ddod o hyd i ddatrysiad.

Rwy'n gallu blaenoriaethu a threfnu'r camau perthnasol sydd eu hangen i gwblhau'r dasg neu ddod o hyd i ddatrysiad.

Rwy'n gallu dewis strategaeth briodol ymenyddol neu un ysgrifenedig ac rwy'n gwybod pryd mae'n briodol defnyddio cyfrifiannell.

Rwy'n gallu dewis strategaeth briodol ymenyddol neu un ysgrifenedig ac rwy'n gwybod pryd mae'n briodol defnyddio cyfrifiannell.

Rwy'n gallu dewis strategaeth briodol ymenyddol neu un ysgrifenedig ac rwy'n gwybod pryd mae'n briodol defnyddio cyfrifiannell.

Cyfathrebu â symbolau

Rwy'n gallu archwilio dulliau anffurfiol a phersonol o gofnodi, gan symud tuag at defnyddio symbolau.

Rwy'n gallu defnyddio nodiant, symbolau ac unedau mesur priodol.

Rwy'n gallu cyfleu fy atebion gan ddefnyddio ffurf fathemategol gywir.

Rwy'n gallu cyfleu fy atebion gan ddefnyddio ffurf fathemategol gywir.

Rwy'n gallu cyfleu fy atebion gan ddefnyddio ffurf fathemategol gywir.

Rwy'n gallu llunio a mireinio dulliau anffurfiol a phersonol o gofnodi, gan symud i ddefnyddio geiriau a symbolau mewn brawddegau rhif.

Rwy'n gallu defnyddio nodiant, symbolau ac unedau mesur priodol.

Rwy'n gallu defnyddio nodiant, symbolau ac unedau mesur priodol, gan gynnwys mesurau cyfansawdd.

Rwy'n gallu defnyddio nodiant, symbolau ac unedau mesur priodol, gan gynnwys mesurau cyfansawdd.

Rwy'n gallu mireinio dulliau o gofnodi cyfrifiadau.

Rwy'n gallu mireinio dulliau o gofnodi cyfrifiadau.

Rwy'n gallu mireinio dulliau o gofnodi cyfrifiadau.

Mae deall y system rif yn ein helpu i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau
Mae deall y system rif yn ein helpu i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Y system rif

Rwy'n gallu cyfrif yn ddibynadwy, ymlaen ac yn ôl, y tu hwnt i 10.

Rwy'n gallu darllen, ysgrifennu a dehongli rhifau gan ddefnyddio ffigurau a geiriau hyd at o leiaf 1000.

Rwy'n gallu darllen ac ysgrifennu rhifau hyd at 1 filiwn a rhifau hyd at 3 lle degol.

Rwy'n gallu ddarllen ac ysgrifennu rhifau o unrhyw faint.

Rwy'n gallu adnabod a diffinio cyfyngiadau ar gywirdeb mesuriadau, e.e. ffiniau uchaf ac isaf.

Rwy'n gallu sylwi ar rifau o 0 i'r tu hwnt i 10, eu darllen a'u hysgrifennu, a chysylltu rhif â'i faint perthnasol.

Rwy'n gallu cymharu, talgrynnu ac amcangyfrif gyda rhifau hyd at 100.

Rwy'n gallu defnyddio'r termau sgwâr ac ail isradd.

Rwy'n gallu defnyddio'r termau ciwb, trydydd isradd a chilydd.

Rwy'n gallu cymharu a threfnu rhifau y tu hwnt i 10.

Rwy'n gallu cyfrif mewn gwahanol gamau o faint unffurf, ac adnabod odrifau ac eilrifau.

Rwy'n gallu amcangyfrif drwy dalgrynnu i'r 10, 100, 1000 neu'r rhif cyfan agosaf.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth o'r angen am ffurf safonol a'i chynrychioliad ar gyfrifiannell.

Rwy'n gallu dangos dealltwriaeth o gyfatebiaeth un i un drwy gyfateb parau o wrthrychau neu luniau.

Rwy'n gallu gwirio swm tynnu drwy ddefnyddio swm adio.

Rwy'n gallu defnyddio a dehongli rhifau mewn ffurf safonol mewn cyfrifiadau.

Rwy'n gallu defnyddio fy synnwyr gweledol o rif er mwyn amcangyfrif a chymharu.

Rwy'n gallu gwirio swm haneru drwy ddefnyddio swm dyblu.

Rwy'n gallu talgrynnu er mwyn amcangyfrif a gwirio atebion.

Rwy'n gallu archwilio amcangyfrifon drwy gyfrif neu fesur.

Rwy'n gallu cyflwyno atebion i nifer penodol o leoedd degol neu ffigurau ystyrlon.

Rwy'n gallu gwneud a chyfiawnhau amcangyfrifon a brasamcanion cyfrifiadau.

Rwy'n gallu dewis y radd briodol o gywirdeb i gyflwyno atebion.

Perthnasoedd yn y system rif

Rwy'n gallu defnyddio haneri a chwarteri.

Rwy'n gallu ddefnyddio dealltwriaeth o gywerthoedd ffracsiynau, degolion a chanrannau syml, e.e. dod o hyd i 25% o 60cm a gwybod bod hyn yn cyfateb i ¼ o 60cm.

Rwy'n gallu defnyddio cywerth ffracsiynau, degolion a chanrannau i ddewis yr un mwyaf priodol ar gyfer cyfrifiad.

Rwy'n gallu haneru rhifau 2-ddigid yng nghyd-destun rhif, arian a mesuriadau.

Rwy'n gallu symleiddio cyfrifiad drwy ddefnyddio ffracsiynau ar eu ffurf symlaf.

Rwy'n gallu adnabod bod rhai ffracsiynau yn ddegolion cylchol, e.e. 1/3 yw 0.333˙

Rwy'n gallu dod o hyd i feintiau ffracsiynol sy'n gysylltiedig â ffeithiau lluosi hysbys, e.e. 1/3 o 18, 1/5 o 15.

Rwy'n gallu defnyddio a dehongli cynrychioliadau gwahanol o ffracsiynau, e.e. rhifau cymysg a ffracsiynau pendrwm.

Rwy'n gallu defnyddio pwerau a deall pwysigrwydd pwerau 10.

Rwy'n gallu defnyddio cywerth ffracsiynau, degolion a chanrannau er mwyn cymharu cyfrannau.

Cyfrifiad

Rwy'n gallu deall a defnyddio'r cysyniad o ‘un arall’ yn fy chwarae.

Rwy'n gallu dod o hyd i wahaniaethau o fewn 100 o leiaf.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau ymenyddol i gofio tablau lluosi hyd at 10 x 10 a'u defnyddio i ddatrys problemau rhannu.

Rwy'n gallu defnyddio'r pedwar gweithrediad a'r cysylltiadau rhyngddyn nhw, e.e. cymhwyso swm rhannu fel gwrthdro i swm lluosi.

Rwy'n gallu defnyddio lluosyddion fel dull effeithlon wrth weithio gyda chanrannau, e.e. lluosi ag 1.2 i gynyddu swm 20%.

Rwy'n gallu deall a defnyddio'r cysyniad o ‘un yn llai’ yn fy chwarae.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau ymenyddol i adio a thynnu rhifau 2-ddigid o leiaf.

Rwy'n gallu lluosi rhifau a degolion â lluosrif o 10, e.e. 15 x 30, 1.4cm x 20.

Rwy'n gallu defnyddio dulliau ysgrifenedig effeithlon i adio a thynnu rhifau a degolion o unrhyw faint, gan gynnwys cymysgedd o rifau mawr a bach â niferoedd gwahanol o leoedd degol.

Rwy'n gallu defnyddio a deall y syniad o ganran wrthdro i ddarganfod maint gwreiddiol.

Rwy'n gallu cyfuno dau grŵp o wrthrychau i ddod o hyd i ‘faint i gyd?’.

Rwy'n gallu defnyddio rhaniadau i ddyblu a haneru rhifau 2-ddigid.

Rwy'n gallu haneru rhifau 3-digid yng nghyd-destun rhif, arian a mesuriadau.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau priodol ar gyfer lluosi a rhannu, gan gynnwys cymhwyso ffeithiau hysbys i ddeillio eraill, e.e. defnyddio 7 x 6 i ddeillio 0.7 x 6.

Rwy'n gallu tynnu gwrthrychau i ddarganfod ‘faint sydd ar ôl?’.

Rwy'n gallu defnyddio strategaethau ymenyddol i gofio ffeithiau rhif o fewn 20.

Rwy'n gallu cyfrifo canran, ffracsiwn a degolyn o unrhyw faint gyda chyfrifiannell lle y bo'n briodol.

Rwy'n gallu defnyddio dulliau effeithlon i luosi a rhannu rhifau cyfan a degolion, gan gynnwys degolion megis 0.6 neu 0.06.

Rwy'n gallu dod o hyd i ffeithiau rhif a'u defnyddio i greu rhif (hyd at 10) mewn ffyrdd gwahanol.

Rwy'n gallu adalw tablau lluosi 2, 3, 4, 5 a 10 a'u defnyddio i ddatrys problemau lluosi a rhannu.

Rwy'n gallu defnyddio cymhareb a chyfran i gyfrifo meintiau.

Rwy'n gallu defnyddio trefn gweithrediadau gan gynnwys cromfachau a phwerau.

Rwy'n gallu lluosi rhifau â 10.

Rwy'n gallu cyfrifo meintiau canran ar sail 10%, e.e. 20%, 5%, 15%.

Rwy'n gallu cyfrifo cynnydd neu ostyngiad canrannol.

Rwy'n gallu gwirio swm lluosi drwy ddefnyddio adio ailadroddol.

Rwy'n gallu adio a thynnu rhifau gan ddefnyddio rhifau cyfan a degolion.

Rwy'n gallu mynegi un maint fel canran maint arall.

Rwy'n gallu lluosi rhifau 2- a 3-digid â rhif 2-ddigid.

Rwy'n gallu cyfrifo canrannau meintiau gan ddefnyddio dulliau heb gyfrifiannell lle y bo'n briodol.

Rwy'n gallu rhannu rhifau 3-digid â rhif 2-ddigid.

Rwy'n gallu defnyddio cymarebau a chyfrannau gan gynnwys graddfeydd map.

Rwy'n gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i wirio cyfrifiadau gan gynnwys defnyddio gweithrediadau gwrthdro, cyfrifiadau cywerth a rheolau rhanadwyedd.

Llythrennedd ariannol

Rwy'n gallu cyfnewid arian am eitemau a defnyddio iaith arian.

Rwy'n gallu defnyddio cyfuniadau gwahanol o arian i dalu am eitemau hyd at o leiaf £2 a chyfrifo'r newid.

Rwy'n gallu adio a thynnu cyfansymiau llai na £100 gan ddefnyddio nodiant cywir, e.e. £28.18 + £33.45.

Rwy'n gallu cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a chyfraddau cyfnewid.

Rwy'n gallu deall a dangos y broses go iawn o gyfnewid arian tramor.

Rwy'n gallu dangos ymwybyddiaeth o ddiben arian drwy chwarae rôl ac mewn sefyllfaoedd go iawn.

Rwy'n gallu trefnu a chymharu eitemau hyd at £10.

Rwy'n gallu rheoli arian, cymharu costau siopau gwahanol a phenderfynu beth y gellir ei brynu o fewn cyllideb benodol.

Rwy'n gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth yn ymwneud â gostyngiadau a chynigion arbennig.

Rwy'n gallu deall a chyfrifo treth incwm a deall goblygiadau trethiant.

Rwy'n gallu cymharu prisiau a deall pa un yw'r gwerth gorau am arian.

Rwy'n gallu cwblhau cyfrifiadau sy'n ymwneud â TAW, cynilo a benthyca.

Rwy'n gallu defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu.

Rwy'n gallu gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca.

Rwy'n gallu sylweddoli bod cyllidebu yn bwysig.

Rwy'n gallu deall manteision ac anfanteision defnyddio cyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc.

Rwy'n gallu deall manteision ac anfanteision defnyddio cyfrifon banc.

Rwy'n gallu deall y risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a buddsoddi.

Rwy'n gallu cynllunio ac olrhain arian a chynilion drwy gadw cofnodion cywir.

Rwy'n gallu defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog.

Rwy'n gallu disgrifio pam mae yswiriant yn bwysig a deall effaith bod heb yswiriant.

Mae dysgu am geometreg yn ein helpu i ddeall siapiau, gofod a safle, ac mae dysgu am fesur yn ein helpu i feintioli yn y byd go iawn
Mae dysgu am geometreg yn ein helpu i ddeall siapiau, gofod a safle, ac mae dysgu am fesur yn ein helpu i feintioli yn y byd go iawn: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Mesur

Rwy'n gallu defnyddio unedau mesur ansafonol i drafod fy ymdeimlad o faint.

Rwy'n gallu defnyddio unedau ansafonol i fesur.

Rwy'n gallu darllen a dehongli graddfeydd neu raniadau ar amrywiaeth o offerynnau mesur.

Rwy'n gallu cynrychioli a defnyddio mesurau cyfansawdd, gan ddefnyddio unedau safonol.

Rwy'n gallu deall a defnyddio amrywiaeth o fesurau cyfansawdd.

Rwy'n gallu defnyddio cymariaethau uniongyrchol â:

  • hyd, uchder a phellter, e.e. hirach/byrrach na
  • pwysau/màs, e.e. trymach/ysgafnach na
  • capasiti, e.e. yn dal mwy/llai na.

Rwy'n gallu datblygu i ddefnyddio unedau mesur safonol:

  • hyd: Rwy'n gallu mesur ar bren mesur i'r 0.5cm agosaf
  • pwysau/màs: Rwy'n gallu defnyddio pwysau 5g, 10g a 100g i fesur a chymharu màs gwrthrychau
  • capasiti: Rwy'n gallu darllen graddfa i'r 100ml agosaf.

Rwy'n gallu cofnodi mesuriadau mewn ffyrdd gwahanol, e.e. 1.3kg = 1kg 300g, 4.2cm = 4cm 2mm.

Rwy'n gallu darllen a dehongli graddfeydd ar amrywiaeth o offerynnau mesur.

Rwy'n gallu rhagweld digwyddiadau sy'n ymwneud ag elfennau o arferion dyddiol a defnyddio'r termau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’.

Rwy'n gallu defnyddio'r cysyniad o amser o ran fy ngweithgareddau dyddiol ac wythnosol a thymhorau'r flwyddyn.

Rwy'n gallu trosi unedau metrig o hyd i unedau llai, e.e. cm i mm, m i cm, km i m.

Rwy'n gallu dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng fformiwla sy'n cynrychioli mesuriad a'r unedau a ddefnyddir.

Rwy'n gallu defnyddio'r cysyniad sylfaenol o amser yn nhermau fy ngweithgareddau dyddiol.

Rwy'n gallu defnyddio unedau safonol o amser i ddarllen amserau 'o'r gloch', 'hanner awr wedi', 'chwarter wedi' a 'chwarter i' ar glociau analog a chlociau digidol 12 awr.

Rwy'n gallu defnyddio iaith unedau imperial a ddefnyddir bob dydd, e.e. milltiroedd, peintiau.

Rwy'n gallu defnyddio'r unedau mesur cyffredin, trosi rhwng unedau cysylltiedig y system fetrig a chwblhau cyfrifiadau.

Rwy'n gallu dangos ymdeimlad sy'n datblygu o ran pa mor hir mae tasgau a digwyddiadau bob dydd yn eu cymryd.

Rwy'n gallu darllen a defnyddio clociau analog a digidol.

Rwy'n gallu defnyddio cywerthoedd metrig bras o unedau imperial a ddefnyddir bob dydd.

Rwy'n gallu defnyddio a dehongli calendrau, amserlenni a rhaglenni i gynllunio digwyddiadau a gweithgareddau, a gwneud cyfrifiadau fel rhan o'r daith gynllunio.

Rwy'n gallu dehongli ffracsiynau o eiliadau yn briodol.

Rwy'n gallu cwblhau gweithgareddau ymarferol sy'n cynnwys digwyddiadau a amserir, ac esbonio pa uned o amser yw'r mwyaf priodol.

Rwy'n gallu defnyddio amserlenni a chylchfaoedd amser i gyfrifo amser teithio.

Rwy'n gallu amseru digwyddiadau mewn munudau ac eiliadau, a threfnu'r canlyniadau.

Rwy'n gallu trosi tymereddau rhwng graddfeydd tymheredd priodol.

Rwy'n gallu amcangyfrif pa mor hir mae taith yn ei chymryd.

Rwy'n gallu mesur a chofnodi tymereddau sy'n cynnwys darlleniadau positif a negatif.

Siâp a gofod

Rwy'n gallu trafod priodweddau siapiau rwy'n eu defnyddio yn fy nysgu pob dydd.

Rwy'n gallu trafod priodweddau siapiau dau ddimensiwn a thri dimensiwn rwy'n eu defnyddio yn fy nysgu pob dydd.

Rwy'n gallu adnabod mai perimedr yw'r pellter o gwmpas siâp.

Rwy'n gallu dod o hyd i gylchedd cylchoedd gan ddefnyddio'r hyn rwy'n ei wybod am π (Pi).

Rwy'n gallu cymhwyso newid cyfrannol i ddyluniadau dau ddimensiwn.

Rwy'n gallu mesur a chyfrifo perimedr.

Rwy'n gallu cyfrifo arwynebedd siapiau dau ddimensiwn syml a chyfansawdd, gan gynnwys cylchoedd.

Rwy'n gallu dod o hyd i arwynebedd drwy gyfrif sgwariau, gan ddatblygu i gyfrifo arwynebedd sgwariau a phetryalau drwy ddefnyddio fformiwlâu.

Rwy'n gallu cymhwyso'r fformiwlâu ar gyfer cyfaint prismau syml.

Rwy'n gallu defnyddio iaith fathemategol i ddisgrifio siapiau dau ddimensiwn a thri dimensiwn yn gywir.

Rwy'n gallu dod o hyd i gyfeintiau drwy gyfrif a dulliau ymarferol eraill.

Safle

Rwy'n gallu archwilio symudiadau a chyfeiriadau.

Rwy'n gallu defnyddio iaith safle.

Rwy'n gallu defnyddio cyfeirnodau grid i nodi lleoliad.

Rwy'n gallu disgrifio safle.

Rwy'n gallu defnyddio'r pedwar pwynt cwmpawd i ddisgrifio cyfeiriadau.

Rwy'n gallu defnyddio cyfesurynnau i ddod o hyd i safle.

Ongl

Rwy'n gallu adnabod hanner a chwarter troeon, clocwedd a gwrthglocwedd.

Rwy'n gallu defnyddio ongl fel mesur cylchdro.

Rwy'n gallu mesur a lluniadu onglau.

Rwy'n gallu mesur a lluniadu onglau.

Rwy'n gallu cymhwyso dealltwriaeth o gyfeiriannau a graddfa i ddehongli mapiau a chynlluniau, ac i greu cynlluniau a lluniadau wrth raddfa.

Mae dysgu bod ystadegau yn cynrychioli data a bod tebygolrwydd yn modelu siawns yn ein helpu i wneud casgliadau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth
Mae dysgu bod ystadegau yn cynrychioli data a bod tebygolrwydd yn modelu siawns yn ein helpu i wneud casgliadau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth: datganiadau fesul elfen, un golofn ar gyfer pob cam cynnydd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5
Casglu data

Rwyf wedi casglu data sydd yn fy amgylchedd.

Rwy'n gallu casglu gwybodaeth drwy bleidleisio neu drefnu.

Rwy'n gallu casglu data perthnasol i ateb cwestiynau a ofynnwyd.

Rwy'n gallu casglu fy nata fy hun ar gyfer arolwg, e.e. drwy lunio holiadur.

Rwy'n gallu casglu data mewn ffordd addas yn unol â'm rhagdybiaeth.

Rwy'n gallu cynllunio sut i gasglu data er mwyn profi rhagdybiaeth syml.

Rwy'n gallu casglu data meintiol ac ansoddol.

Cynrychioli data

Rwy'n gallu didoli a chyfateb setiau o wrthrychau neu luniau drwy adnabod yr hyn sy'n debyg ac rwy'n gallu cyfleu fy newisiadau.

Rwy'n gallu didoli a dosbarthu gwrthrychau gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf.

Rwy'n gallu dewis a llunio siartiau, diagramau a graffiau priodol sydd â graddfeydd addas.

Rwy'n gallu dewis a llunio siartiau, diagramau a graffiau priodol sydd â graddfeydd addas.

Rwy'n gallu dewis a llunio siartiau, diagramau a graffiau priodol sydd â graddfeydd addas.

Rwy'n gallu cyflwyno gwaith ar lafar, yn ddarluniadol ac yn ysgrifenedig, a defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gynrychioli'r data a gasglwyd.

Rwy'n gallu cyflwyno gwaith ar lafar, mewn gwrthrychau, yn ddarluniadol ac yn ysgrifenedig, a defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gynrychioli'r data a gasglwyd sydd â graddfeydd addas gan gynnwys:

  • rhestrau, siartiau cyfrif, tablau a diagramau
  • siartiau bar a graffiau llinell bar wedi'u labelu fesul 2, 5 a 10
  • pictogramau lle mae un symbol yn cynrychioli mwy nag un uned gan ddefnyddio allwedd
  • diagramau Venn a Carroll.

Rwy'n gallu cynrychioli data gan ddefnyddio:

  • rhestrau, siartiau cyfrif, tablau, diagramau a thablau amlder
  • siartiau bar, siartiau data wedi'u grwpio, graffiau llinell a graffiau trawsnewid
  • pictogramau lle mae un symbol yn cynrychioli mwy nag un uned gan ddefnyddio allwedd
  • diagramau Venn a Carroll.

Rwy'n gallu creu tablau amlder ar gyfer setiau o ddata mewn cyfyngau dosbarth hafal, gan ddewis grwpiau fel y bo'n briodol.

Rwy'n gallu defnyddio dulliau gwneud marciau i ddechrau cofnodi casgliadau.

Rwy'n gallu llunio a dehongli graffiau a diagramau (gan gynnwys siartiau cylch) i gynrychioli data arwahanol neu barhaus, gan ddewis graddfa briodol.

Rwy'n gallu llunio graffiau i gynrychioli data gan gynnwys diagramau gwasgariad er mwyn ymchwilio i gydberthyniad.

Dehongli data

Rwy'n gallu dehongli gwybodaeth a gyflwynir mewn siartiau a diagramau, a dod i gasgliadau priodol.

Rwy'n gallu echdynnu a dehongli gwybodaeth a gyflwynir mewn siartiau, amserlenni, diagramau a graffiau.

Rwy'n gallu echdynnu a dehongli gwybodaeth o amrywiaeth gynyddol o ddiagramau, amserlenni a graffiau (gan gynnwys siartiau cylch).

Rwy'n gallu dehongli graffiau sy'n disgrifio sefyllfaoedd go iawn, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir yn y cyfryngau, a chan gydnabod y gall rhai graffiau fod yn gamarweiniol.

Rwy'n gallu dehongli graffiau sy'n disgrifio sefyllfaoedd go iawn, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir yn y cyfryngau, a chan gydnabod y gall rhai graffiau fod yn gamarweiniol.

Rwy'n gallu dod i gasgliadau o ddata ac rwy'n cydnabod y gall rhai casgliadau fod yn gamarweiniol neu'n ansicr.

Rwy'n gallu dod i gasgliadau o ddata ac rwy'n cydnabod y gall rhai casgliadau fod yn gamarweiniol neu'n ansicr.

Rwy'n gallu dehongli gwybodaeth fathemategol; gan ddod i gasgliadau o graffiau, diagramau a data, gan gynnwys trafod cyfyngiadau data.

Rwy'n gallu dehongli gwybodaeth fathemategol; gan ddod i gasgliadau o graffiau, diagramau a data, gan gynnwys trafod cyfyngiadau data.

Rwy'n gallu defnyddio cymedr i ddehongli set data syml.

Rwy'n gallu dod i gasgliadau o ddata ac rwy'n cydnabod y gall rhai casgliadau fod yn gamarweiniol neu'n ansicr.

Rwy'n gallu dod i gasgliadau o ddata ac rwy'n cydnabod y gall rhai casgliadau fod yn gamarweiniol neu'n ansicr.

Rwy'n gallu defnyddio cymedr, canolrif, modd ac ystod i gymharu data (parhaus ac arwahanol), ac rwy'n gallu dewis y cyfartaledd mwyaf priodol.

Rwy'n gallu archwilio tueddiadau a gwerthoedd eithaf (allanolynnau) ar gyfer setiau data.

Rwy'n gallu archwilio canlyniadau yn feirniadol, a dethol a chyfiawnhau dewis o ystadegau, gan gydnabod cyfyngiadau unrhyw ragdybiaethau a'u heffaith ar y casgliadau.